Mae gan Gyngor Caerdydd nifer o grwpiau cyflogeion sy’n cynorthwyo cyflogeion ac yn eu galluogi i wella’r ffordd y mae Cyngor Caerdydd yn gweithio fel cyflogwr.
Mae’r pedwar rhwydwaith cyflogeion yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at ddiwylliant Cyngor Caerdydd, gan hefyd roi gwybod i gyflogeion bod cymorth a help ar gael pe bai angen.
Rhwydwaith Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig
Mae’r rhwydwaith Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yn grŵp diwylliannol amrywiol cefnogol, sy’n ymgyrchu i wella amlygrwydd Cyflogeion Duon a Lleiafrifoedd Ethnig.
Diben y Rhwydwaith DLlE yw:
- Rhoi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i gyflogeion DLlE sy’n gweithio yng Nghyngor Caerdydd
- Bod yn gorff cynghori a fforwm ymgynghorol i’r Cyngor ar faterion sy’n ymwneud â gweithdrefnau, polisïau ac arferion gwrth-wahaniaethol
- Cynnig man diogel i drafod materion sy’n ymwneud â gweithio yn y Cyngor fel person DLlE
Rhwydwaith Anabledd
Mae’r Rhwydwaith Anabledd yn cysylltu cyflogeion anabl mewn ffordd anffurfiol a chefnogol.
Diben y Rhwydwaith Anabledd yw:
- Rhoi man diogel i drafod gweithio yn y Cyngor fel person anabl
- Addysgu cyflogeion eraill a chodi ymwybyddiaeth o faterion ar gyfer cyflogeion anabl
- Bod yn gorff cynghori a chefnogi’r Cyngor ar ei ddyletswyddau o fewn Deddf Cydraddoldeb 2010 ihyrwyddo ydraddoldeb, dileu rhagfarn a gwahaniaethu, a hyrwyddo arfer gorau fel Cyflogwr sy’n Hyderus ynghylch Anabledd.
Rhwydwaith Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT)
Mae’r Rhwydwaith LGBT yn cynnig lle cyfeillgar a chyfrinachol i gyflogeion lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsrywiol gyfarfod a thrafod materion sy’n effeithio arnynt.
Diben Rhwydwaith LHDT+ yw cynnig:
- Man diogel i drafod materion sy’n ymwneud â gweithio yn y Cyngor fel person LHDT
- Ffyrdd o gyfrannu’n rhagweithiol at fentrau a pholisïau corfforaethol a rhoi adborth arnynt
Rhwydwaith y Merched
Mae Rhwydwaith y Merched yn grŵp dynamig sy’n cynorthwyo’r broses o ddyrchafu merched yng Nghyngor Caerdydd.
Mae’r rhwydweithiau hyn yn gwneud cyfraniad pwysig at hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle wrth sicrhau bod yr holl gyflogeion yn cael eu trin ag urddas a pharch.
Diben y Rhwydwaith Menywod yw:
- Hyrwyddo cydraddoldeb i fenywod
- Grymuso a magu hyder menywod
- Hyrwyddo gwelededd modelau rôl ysbrydoledig
- Cefnogi menywod i gyflawni eu potensial drwy gysylltu, dysgu a rhannu ag eraill
- Rhoi cyfleoedd rhwydweithio mewnol ac allanol
Gofalwyr Rhwydwarth
Mae'r Rhwydwaith Gofalwyr yn cynnig fforwm cefnogol i gyflogeion sy'n Ofalwyr, gyda'r aelodau yn gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at bolisïau, gweithdrefnau a diwylliant y Cyngor.
Diben y Rhwydwaith Gofalwyr yw:
- Rhoi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i gyflogai â chyfrifoldebau gofalu sy’n gweithio yng Nghyngor Caerdydd
- Cynnig man diogel i drafod materion sy’n ymwneud â gofalwyr yn gweithio yn y Cyngor
- Codi ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â gofalwyr
Am ragor o wybodaeth am unrhyw un o’n rhwydweithiau cyflogeion mae croeso i chi gysylltu â ni.