Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb a monitro

Mae Deddf Gydraddoldeb 2010 yn gosod Dyletswydd Gyffredinol ar Gyngor Dinas Caerdydd, fel corff cyhoeddus, fod rhaid iddo ystyried yn ofalus y tri ffactor canlynol wrth wneud penderfyniadau (gan gynnwys penderfyniadau ariannol):

  • Cael gwared ar wahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon, 
  • Gwella o ran cynnig cyfle cyfartal, a
  • Meithrin perthnasoedd da rhwng pobl sydd â nodwedd a ddiogelir (megis oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, cred a diffyg cred, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a'r Iaith Gymraeg) a phobl sydd heb un o’r nodweddion hyn.


Mae gofynion y Ddeddf yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i ddangos bod penderfyniadau ariannol yn cael eu gwneud mewn modd teg, eglur ac atebol ac yn ystyried anghenion a hawliau aelodau amrywiol o'r gymuned.

Mae dyletswyddau cydraddoldeb penodol y Ddeddf yn nodi bod yn rhaid i awdurdod lleol wneud y canlynol:

  • Gwneud trefniadau priodol ar gyfer asesu effaith debygol ei bolisïau a’i arferion ar ei allu i gydymffurfio â'r Ddyletswydd Gyffredinol,
  • Monitro’r effeithiau hyn, a
  • Chyhoeddi adroddiadau mewn perthynas ag unrhyw asesiad.




Cyhoeddir Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb sy'n ymwneud â phenderfyniadau'r Cabinet gyda phapurau'r Cabinet

Gallwch weld penderfyniad, gan gynnwys yr holl bapurau, drwy ddefnyddio’r swyddogaeth chwilio ar wefan Modern Gov.

Gallwch weld holl gyfarfodydd y Cabinet a’u papurau hefyd ar wefan Modern Gov​.

Monitro cydraddoldeb



Mae dyletswydd benodol ar y Cyngor i adrodd bob blwyddyn ar sut mae’n cydymffurfio â'r Ddyletswydd Gyffredinol, gan gynnwys y cynnydd y mae wedi'i wneud i gyflawni ei Amcanion Cydraddoldeb a gwybodaeth am ei weithwyr.

Mae’r wybodaeth a geir yn y dogfennau hyn wedi’u dylunio i’w hargraffu. Mae’n bosib na fydd modd gweld popeth ar-lein.
​​





 
© 2022 Cyngor Caerdydd