Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Sut i bleidleisio

​​​​​​​​Ar gyfer etholiadau San Steffan a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, mae angen i chi fynd â cherdyn adnabod â llun i gadarnhau eich hunaniaeth cyn y gallwch bleidleisio yn bersonol mewn gorsaf bleidleisio. Deall pa fath o gerdyn adnabod â llun a dderbynnir​.

​​​​​​​​​​​​​​​Rhaid i chi gofrestru i bleidleisio cyn y gallwch chi bleidleisio yn etholiadau neu refferenda’r DU. 

Bydd angen i chi gofrestru i bleidleisio 12 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio. 

Pleidleisio'n bersonol

Pan fyddwch chi’n pleidleisio'n bersonol, rydych chi’n mynd i'r orsaf bleidleisio a ddyrannwyd i chi. Mae hyn yn seiliedig ar eich cyfeiriad ar y gofrestr etholiadol.

Mae gorsafoedd pleidleisio ar agor o 7am tan 10pm ar ddiwrnod yr etholiad ac maen nhw’n adeiladau cyhoeddus fel ysgolion neu neuaddau lleol fel arfer. 

Cyn i chi fynd i bleidleisio, sicrhewch eich bod yn gwybod lle mae eich gorsaf bleidleisio. Efallai nad dyma'r un agosaf i lle rydych chi'n byw, ac efallai y bydd wedi newid ers i chi bleidleisio’r tro diwethaf.

Dim ond yn eich gorsaf bleidleisio a ddyrannwyd i chi y gallwch bleidleisio'n bersonol.

Bydd cyfeiriad eich gorsaf bleidleisio ar eich cerdyn pleidleisio. Byddwn yn anfon y cerdyn drwy'r post ychydig wythnosau cyn y diwrnod pleidleisio.


Ar gyfer etholiadau San Steffan a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, mae angen i chi fynd â cherdyn adnabod â llun photo ID i gadarnhau eich hunaniaeth cyn y gallwch bleidleisio. 


Beth i'w ddisgwyl yn yr orsaf bleidleisio

Bydd angen i chi roi eich enw a'ch cyfeiriad i'r staff yn yr orsaf bleidleisio ar ôl i chi gyrraedd. Yn dibynnu ar ba etholiad sy'n cael ei gynnal, efallai y bydd yn rhaid i chi ddangos eich cerdyn adnabod â llun. 

Byddwch chi’n cael papur pleidleisio a fydd yn cynnwys manylion am sut i bleidleisio a'r dewisiadau pleidleisio ar gyfer y bleidlais neu’r refferendwm. Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i fwrw eich pleidlais, gofynnwch i'r staff yn yr orsaf bleidleisio.  

Pleidleisio drwy'r post

Gallwch chi wneud cais i bleidleisio drwy'r post ar gyfer:
  • un etholiad ar ddyddiad penodol
  • cyfnod penodol, neu
  • yn barhaol 


Bydd pecyn pleidlais bost yn cael ei anfon atoch cyn yr etholiad.

Gwneud gais i bleidleisio drwy'r post ar gyfer etholiadau'r Senedd, Cyngor Caerdydd a Chynghorau Cymuned

Bydd angen i chi lawrlwytho ac argraffu'r ffurflen gais am bleidlais bost, ei llenwi a'i hanfon atom drwy e-bost neu'r post.​






Mae gan y ffurflen gais gyfarwyddiadau ar sut i'w llenwi'n gywir.

Bydd angen i chi roi eich dyddiad geni a llofnodi eich ffurflen gais. Defnyddir y r​​hain i gadarnhau eich hunaniaeth pan fyddwch chi’n pleidleisio drwy'r post.

Os na allwch chi lofnodi'r ffurflen neu os na allwch chi lofnodi mewn ffordd gyson, cysylltwch â ni.

Os na allwch chi lawrlwytho ac argraffu'r ffurflen hon, gallwch gysylltu â ni i ofyn am argraffiad o'r ffurflen hon. 

 

Gwneud cais i bleidleisio drwy'r post ar gyfer Etholiad Seneddol y DU ac etholiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Gallwch wneud cais ar-lein i bleidleisio drwy'r post yn Etholiad Seneddol y DU ac etholiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

Gofynnir i chi ddarparu:​

  •         y cyfeiriad lle rydych wedi cofrestru i bleidleisio, a
  •         eich rhif Yswiriant Gwladol neu ddogfennau adnabod eraill, er enghraifft pasbort.
    ​​​

Bydd angen i chi hefyd lwytho llun o'ch llofnod mewn llawysgrifen mewn inc du ar bapur gwyn plaen.

Os na allwch ddarparu llofnod neu un sydd bob amser yn edrych yr un peth, efallai y gallwch wneud cais am hepgoriad llofnod pleidlais bost o fewn y gwasanaeth.​​​​

Efallai y gofynnir i chi am ddogfennau ychwanegol i'ch adnabod.​

Gallwch hefyd lawrlwytho ac argraffu ffurflen bapur i wneud cais i bleidleisio drwy'r post ar gyfer Etholiadau Seneddol y DU a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Bydd angen i chi lenwi'r ffurflen hon a'i hanfon atom trwy e-bost neu drwy'r post. 

Os na allwch chi lawrlwytho ac argraffu'r ffurflen hon, gallwch gysylltu â ni i ofyn am argraffiad o'r ffurflen hon.​



Cwblhau a dychwelyd eich pleidlais bost

Wrth bleidleisio drwy'r post, dylech chi:
  • farcio’ch pleidlais ar eich papur pleidleisio yn gyfrinachol
  • llenwi'r datganiad pleidleisio drwy'r post
  • rhoi'r bleidlais a'r datganiad yn yr amlen a ddarparwyd
  • selio'r amlen eich hun


Postiwch eich pleidlais cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei chyfri. 


Os ydych chi'n rhy hwyr i bostio eich papur pleidleisio, gallwch fynd ag ef i'ch gorsaf bleidleisio leol erbyn 10pm ar ddiwrnod yr etholiad neu i'r swyddfa Gwasanaethau Etholiadol yn Neuadd y Sir. 

Beth i'w wneud os caiff eich papur pleidleisio ei golli neu ei ddwyn

Mae angen i'ch papur pleidleisio arddangos eich dewis pleidleisio yn glir. Os yw wedi ei ddifrodi neu os ydych chi'n ei golli, bydd angen i chi gael un arall.

Gallwch naill ai:

  • gysylltu â ni i ofyn am un newydd. 
  • casglu un newydd gennym yn Neuadd y Sir hyd at 5pm ar ddiwrnod yr etholiad. 


Ni allwch bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio os gwnaethoch gofrestru i bleidleisio drwy'r post neu os yw eich papur pleidleisio wedi’i golli neu ei ddifrodi.


Pleidleisio drwy ddirprwy

Os na allwch chi bleidleisio’n bersonol gallwch chi ofyn i rywun​ bleidleisio ar eich rhan. Pleidlais drwy ddirprwy yw'r enw ar hyn.

Dim ond o dan amgylchiadau penodol y cewch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy, gan gynnwys:

  • bod i ffwrdd ar ddiwrnod yr etholiad​
  • bod â phroblem feddygol neu anabledd
  • methu â phleidleisio'n bersonol oherwydd gwaith, addysg neu wasanaeth milwrol
  • wedi'ch cofrestru fel etholwr tramor 


Dylai eich dirprwy fod yn rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo/ynddi i bleidleisio ar eich rhan. Bydd angen i chi ddweud wrth eich dirprwy sut rydych chi’n dymuno i'ch pleidlais gael ei bwrw. 

Gwneud gais i bleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer etholiadau'r Senedd, Cyngor Caerdydd a'r Cyngor Cymuned​​

Bydd angen i chi lawrlwytho ac argraffu’r ffurflen gofrestru i bleidleisio drwy ddirprwy​, ei llenwi, ei llofnodi, a’i hanfon atom drwy’r post neu e-bost. 


Gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer Etholiad Seneddol y DU ac etholiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu​

Gallwch wneud cais ar-lein i bleidleisio drwy ddirprwy yn Etholiad Seneddol y DU ac etholiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

Gallwch hefyd lawrlwytho ac argraffu ffurflen bapur i wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer Etholiadau Seneddol y DU a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Bydd angen i chi lenwi'r ffurflen hon a'i hanfon atom trwy e-bost neu drwy'r post. 

Os na allwch chi lawrlwytho ac argraffu'r ffurflen hon, gallwch gysylltu â ni i ofyn am argraffiad o'r ffurflen hon.​



Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5pm 6 diwrnod gwaith cyn diwrnod yr etholiad. 


Beth i'w wneud os byddwch yn methu'r terfyn amser i wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy

Os gwnaethoch chi fethu’r terfyn amser ar gyfer y bleidlais drwy ddirprwy, efallai y gallwch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy brys os ydych chi’n:

  • methu â phleidleisio’n bersonol oherwydd eich cyflogaeth neu anabledd ac
  • y daethoch yn ymwybodol o'r rheswm hwn ar ôl y terfyn amser i bleidleisio drwy ddirprwy


Gallwch wneud cais tan 5pm ar ddiwrnod yr etholiad. 



Bydd angen i chi lawrlwytho ac argraffu’r ffurflen, ei llenwi, ei llofnodi, a’i hanfon atom drwy e-bost. 

Rhaid i berson priodol lofnodi'r ffurflen gais. Er enghraifft, eich cyflogwr neu feddyg. 

Pleidleisio o dramor

Gallwch chi bleidleisio o dramor:

  • os byddwch chi dramor dros dro 
  • os ydych chi’n symud neu'n byw dramor


Byddwch chi dramor dros dro

Os byddwch chi dramor dros dro ar ddiwrnod yr etholiad, gallwch chi bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy. Bydd angen i chi wneud y trefniadau o flaen llaw. 

Bydd yn rhaid i chi wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy os oes llai na 2 wythnos tan yr etholiad neu'r refferendwm ac nad ydych wedi gwneud trefniadau eto. 


Os dewiswch wneud cais i bleidleisio drwy'r post, bydd eich pleidlais bost yn cael ei hanfon i'r cyfeiriad rydych chi wedi ei ddewis ddim cynharach nag 16 diwrnod cyn yr etholiad. Mae angen i chi ddychwelyd y bleidlais cyn 10pm ar y diwrnod pleidleisio. 

Rydych chi’n symud neu'n byw dramor

Gallwch chi gofrestru fel pleidleisiwr tramor: 

  • os ydych yn ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig cymwys 
  • os oeddech wedi’ch cofrestru i bleidleisio yn y DU o fewn y 15 mlynedd diwethaf (neu os oeddech chi'n rhy ifanc i fod wedi cofrestru pan wnaethoch chi adael y DU)


Rhaid i chi gofrestru i bleidleisio yn y ffordd arferol. Rhaid i chi adnewyddu eich cofrestriad bob blwyddyn. Cewch nodyn atgoffa pan fydd yn adeg adnewyddu.

Os na fyddwch yn adnewyddu eich cofrestriad, cewch eich dileu oddi ar y gofrestr a bydd angen i chi gofrestru i bleidleisio eto. 

Pleidleisio os ydych wedi’ch cofrestru fel pleidleisiwr tramor

Cewch bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU. 

Efallai y cewch bleidleisio mewn refferenda. Mae gan bob refferendwm reolau gwahanol ynglŷn â phwy sy'n cael pleidleisio. Dod o hyd i ragor o wybodaeth am refferenda​.

Os ydych yn gymwys, cewch bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy. Bydd angen i chi wneud y dewis hwn pan fyddwch chi'n cofrestru.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth, cysylltwch â ni. 

Ffôn:  029 2087 2088

E-bost: gwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.uk 

Gwasanaethau Etholiadol
Ystafell 263, Neuadd y Sir,
Glanfa'r Iwerydd 
Caerdydd 
CF10 4UW









​​​​​​



© 2022 Cyngor Caerdydd