- Ydych chi’n angerddol ynghylch eich cymuned leol?
- Oes yna rywbeth rydych chi am ei newid?
- Ydych chi’n barod i gymryd penderfyniadau heriol?
- Beth am sefyll dros yr hyn sy’n bwysig i chi a dod yn gynghorydd lleol?
Mae cynghorwyr yn cael eu hethol gan bobl yn eu cymuned i’w cynrychioli ac i wneud penderfyniadau ar eu rhan. Mae bod yn gynghorydd yn foddhaol, yn heriol ac yn bleserus a gallwch chi newid bywydau pobl er gwell.
Mae’n bwysig bod cynghorwyr yn debyg i’r bobl sy’n eu hethol er mwyn iddynt gael cynrychioli pob barn wahanol yn y gymuned a chymryd penderfyniadau sydd o fudd i bawb.
Mae angen i fwy o Fenywod, Pobl o gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig eraill, pobl LGBTQ+, pobl anabl a phobl ifanc sefyll am etholiad yng Nghymru.
Mae’r etholiadau lleol nesaf yn 2027, dysgwch fwy ar wefan Bod yn Gynghorydd.Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Mae gan gynghorwyr hawl i wahanol fathau o gyflogau, lwfansau a threuliau yn ddibynnol ar y swyddogaethau a'r cyfrifoldebau sydd ganddynt.
Taliadau i Gynghorwyr (31kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Os hoffech wybod mwy am fod yn gynghorydd ar gyfer Dinas a Sir Caerdydd a'i wasanaethau gallwch fynychu un o'r cyfarfodydd pwyllgor cyhoeddus neu siarad yn anffurfiol ag un o'r Cynghorwyr neu grwp gwleidyddol cyfredol.
Gofynion Cyfreithiol
Er mwyn cael eich ethol yn Gynghorydd mae'n rhaid i chi:
- fod yn 18 oed neu'n hŷn ar ddyddiad yr enwebiad
- fod yn ddinesydd y Gymanwlad, yn ddinesydd cymwysedig y Gymanwlad neu'n ddinesydd Gwladwriaeth arall y Gymuned Ewropeaidd.
ac un o'r canlynol:
- Rydych wedi cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer yr awdurdod lleol yr hoffech weithredu ynddi o ddiwrnod eich etholiad ymlaen, a pharhau wedi'ch cofrestru yno.
- Rydych wedi byw fel perchennog neu denant ar unrhyw dir neu adeilad arall yn ardal yr awdurdod lleol yn ystod y 12 mis cyfan cyn diwrnod eich enwebiad a diwrnod yr etholiad.
- Mae eich prif neu unig le gwaith yn ystod y 12 mis cyn diwrnod eich enwebiad a diwrnod yr etholiad wedi bod yn ardal yr awdurdod lleol.
- Rydych wedi byw yn ardal yr awdurdod lleol am y 12 mis cyfan cyn diwrnod eich enwebu a diwrnod yr etholiad.
Ni allwch sefyll fel Ymgeisydd os oes unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i chi:
- Rydych yn cael eich cyflogi gan yr awdurdod lleol neu mae gennych swydd ac yn derbyn tâl gan yr awdurdod (gan gynnwys byrddau neu gyd-bwyllgorau).
- Mae gennych swydd dan gyfyngiadau gwleidyddol.
- Rydych yn destun gorchymyn cyfyngiadau methdaliad neu orchymyn interim.
- Rydych wedi cael eich dedfrydu i gyfnod yn y carchar am dri mis neu fwy (gan gynnwys dedfryd ohiriedig), heb y dewis i dalu dirwy, yn ystod y pum mlynedd cyn diwrnod yr etholiad.
- Rydych wedi cael eich diarddel dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (sy'n cynnwys arferion etholiadol llygredig neu anghyfreithlon yn ymwneud â chyfraniadau) neu dan Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998.