Er bod dathliadau traddodiadol Dydd Gŵyl Dewi ychydig yn wahanol eleni, mae llawer o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal o hyd ledled Caerdydd.
Y Gymraeg
Rydym wedi lansio'r Strategaeth Sgiliau Iaith 2021. Bydd y strategaeth hon yn adeiladu ar lwyddiant ein strategaeth Caerdydd Ddwyieithog drwy wella sgiliau iaith Gymraeg staff y Cyngor. Bydd hyn yn ein helpu i barhau i ddarparu gwasanaethau Cymraeg o safon.
Dathlu Dydd Gŵyl Dewi
Llwybrau Stori Cymreig
Mae pedwar llwybr stori pwrpasol wedi’u creu ym mharciau Caerdydd. Bydd y llwybrau hyn yn arwain plant a’u teuluoedd ar hyd cyfres wedi’i churadu o fannau oedi, gan gwrdd â chymeriadau chwedlau Cymreig a chlywed eu hanes.
Cyngerdd Dydd Gŵyl Dewi Gwasanaeth Cerdd CCBM
Gŵyl Ddigidol Croeso Cymru
Mae Croeso Cymru yn cynnal eu digwyddiad digidol mwyaf erioed ar draws ei sianeli cyfryngau cymdeithasol, gan dynnu sylw’r byd at Gymru. Mae'r ŵyl ddigidol yn dathlu diwylliant a bywyd Cymru.
Dathlu yng Nghaerdydd
Mae gan Croeso Caerdydd amrywiaeth o syniadau ac adnoddau ar gyfer dathlu Dydd Gŵyl Dewi:
- Dewi Sant: Hanes Byr
- Ryseitiau Cymreig
- Cymru ar y sgrin
- Creadigrwydd yn y Brifddinas, arddangosfa gelf rithwir
- Cerddoriaeth Gymraeg
- Gweithgareddau ar-lein sy'n addas i deuluoedd