Penodwyd Aelodau Pwyllgorau Craffu yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ar 26 Mai 2022, ac ailddechreuodd Cyfarfodydd Craffu ym mis Mehefin 2022.
Mae Aelodau'r Pwyllgor Craffu wrthi'n datblygu eu blaenraglen waith ar gyfer gweddill 2022-23. Byddant yn cael eu cyhoeddi pan fydd y pwyllgorau wedi cytuno arnynt.
Os hoffech helpu'r Pwyllgor i ddatblygu canlyniadau da i drigolion Caerdydd, gallwch awgrymu eitem i'w chynnwys yn y cynllun nesaf drwy gysylltu â ni.
Gweler isod am wybodaeth am ymchwiliadau craffu ac adroddiadau ymchwil blaenorol.
Am gopïau llawn o'r adroddiadau hyn, cysylltwch â ni.
Adroddiadau ymchwiliad
Weithiau mae Pwyllgorau Craffu yn edrych yn fanwl ar bwnc ac yn anfon adroddiad i'r Cabinet, gydag argymhellion ar sut i wella.
Mae'r Cabinet yn ystyried yr adroddiad ac yn ymateb i'r argymhellion.
Crynodeb o adroddiad ymchwiliad Arweinyddiaeth Cwsmeriaid (555kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
- Rheoli'r Ystâd dan Fodel Landlord Corfforaethol (Mai 2018)
- Arweinyddiaeth Cwsmeriaid (Mai 2018)
- Absenoldeb Salwch – craffu byr ac ymchwil (Medi 2018)
- Model Asesu Effaith Craffu (Mai 2020)
Adroddiadau Ymchwil
Rydym yn gwneud gwaith ymchwil annibynnol i lywio gwaith y Pwyllgorau, gan gasglu tystiolaeth gan randdeiliaid ar eu barn a'u profiadau. Rydym hefyd yn adolygu ymchwil ac arfer da sy'n bodoli eisoes i dynnu sylw at waith y gallai Cyngor Caerdydd ddysgu ohono.
- Arferion meincnodi a dichonoldeb, 2014
- Adolygiad o Effaith Craffu Cyngor Caerdydd gan ddefnyddio dangosyddion canlyniadau CFPS, 2018
- Methodolegau ar gyfer Asesu Effaith Craffu, 2019
Bob blwyddyn, mae pwyllgorau craffu yn adrodd ar eu gwaith, gan dynnu sylw at y cyfraniadau a gafwyd a'r argymhellion a wnaed.
Mae eu hadroddiadau'n tynnu sylw at effaith craffu a newidiadau a wnaed.
Yn 2020 i 21, ac yn 2021 i 22 datblygodd y pum pwyllgor craffu Adroddiad Blynyddol cyfun.