Mae'r wybodaeth ganlynol yn ganllaw sylfaenol ac nid yw'n disodli cyngor cyfreithiol. Lle bo'n briodol, dylech ofyn am eich cyngor cyfreithiol annibynnol eich hun os cewch eich gwahodd i gyfweliad dan rybudd.
Cyfweliad dan rybudd
Nid oes gofyniad cyfreithiol penodol bod yn rhaid i berson yr amheuir ei fod wedi cyflawni trosedd gael cyfweliad dan rybudd cyn gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch p'un ai ei erlyn ai peidio. Fodd bynnag, mae dyletswydd arnom i roi cyfle i rywun dan amheuaeth ateb yr honiadau yn ei erbyn a rhoi ei gyfrif ei hun cyn gwneud penderfyniad i erlyn.
Pam ydw i wedi cael cais i fynychu cyfweliad dan rybudd?
Os ydych wedi cael cais i fynychu cyfweliad dan rybudd, bydd hyn oherwydd ein bod yn credu bod rheswm i amau eich bod wedi cyflawni trosedd. Nid yw hyn yn golygu ein bod yn credu eich bod yn euog ac y byddwn yn eich erlyn yn awtomatig. Mae'n golygu bod y dystiolaeth yr ydym wedi'i chael hyd yma yn dangos y gallech fod wedi cyflawni trosedd.
Bydd y cyfweliad yn rhoi cyfle i chi roi esboniad o'r digwyddiadau. Fodd bynnag, os byddwn yn dod o hyd i unrhyw dystiolaeth yn ystod y cyfweliad eich bod wedi cyflawni trosedd, efallai y cewch eich erlyn.
A gaf i siarad â rhywun am y llythyr yr wyf wedi'i gael gan y Cyngor?
Bydd y llythyr yr ydych wedi'i gael yn rhoi manylion cyswllt yr Ymchwilydd. Bydd swyddog yn trefnu'r cyfweliad gyda chi a bydd hefyd yn trefnu cyfieithydd ar y pryd os oes angen hyn. Gall y cyfieithydd ar y pryd esbonio'r broses a ddilynir ond ni all drafod manylion yr ymchwiliad gyda chi.
A oes rhaid i mi fynychu cyfweliad?
Nac oes, ond os na fyddwch yn bresennol, ni fydd yn ein hatal rhag cymryd camau pellach, fel eich erlyn.
Os na fyddwch yn mynychu'r cyfweliad, byddwn yn ystyried y dystiolaeth sydd gennym ac yn gwneud penderfyniad ar gamau pellach heb fudd eich cyfrif eich hun.
Pwy all ddod i'r cyfweliad gyda fi?
Cewch benodi eich cyfreithiwr neu ymgynghorydd cyfreithiol eich hun neu efallai y bydd eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol yn gallu eich helpu i wneud hyn.
Cewch ddod â rhywun nad yw'n gysylltiedig â'r ymchwiliad, fel ffrind, gweithiwr cymdeithasol neu berthynas.
Os nad cyfreithiwr nac ymgynghorydd cyfreithiol cymwys yw'r person sy'n mynychu'r cyfweliad gyda chi, i roi cefnogaeth foesol i chi yn unig y mae yno ac ni fydd yn cael siarad, ateb cwestiynau ar eich rhan na'ch cynghori.
Os oes gennych nam difrifol ar eich clyw neu os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf (ac rydych yn cael anhawster deall ac ateb yn Saesneg), byddwn yn trefnu i gyfieithydd ar y pryd fod yn bresennol - rhowch wybod i ni am eich gofynion.
Nid oes gennym gyfleusterau gofal plant ac ni fyddwn yn cyfweld â chi os oes gennych blentyn dibynnol gyda chi ar adeg y cyfweliad.
Pwy fydd yn cyfweld â mi?
Bydd un neu ddau swyddog yn cyfweld â chi fel arfer. Mae'r swyddogion hyn wedi'u hyfforddi i gynnal cyfweliadau dan rybudd.
Weithiau byddwn yn cynnal ymchwiliadau ar y cyd ag asiantaethau eraill, fel yr Adran Gwaith a Phensiynau. Os bu ymchwiliad ar y cyd yn eich achos chi, efallai y bydd swyddog o'r Cyngor a swyddog o'r asiantaeth arall yn cyfweld â chi.
Beth fydd yn digwydd yn y cyfweliad?
Cyn gofyn unrhyw gwestiynau, bydd y canlynol yn cael ei esbonio:
- mae recordiad sain o'r cyfweliad yn cael ei greu
- mae'r cyfweliad yn cael ei gynnal yn unol â Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 a'r Codau Ymarfer perthnasol
- cewch edrych ar y Codau Ymarfer
- byddwch yn cael eich rhybuddio ac yn cael gwybod am eich hawliau (nad ydych yn cael eich arestio, eich bod yn rhydd i adael y cyfweliad ar unrhyw adeg ac y gallwch ofyn am gyngor cyfreithiol ar unrhyw adeg)
- pam y gofynnwyd i chi fynychu'r cyfweliad a manylion y drosedd sy'n destun ymchwiliad
Ar ddiwedd y cyfweliad, gofynnir i chi lofnodi sêl bapur ludiog a fydd yn cael ei defnyddio i selio un o'r cyfryngau recordio.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Os yw gwybodaeth newydd wedi dod i'r amlwg yn ystod y cyfweliad, efallai y bydd angen i ni wneud ymholiadau pellach. Ar ôl gwneud hyn, byddwn yn adolygu ein hymchwiliad ac efallai y bydd angen i ni gyfweld â chi eto. Os felly, byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych beth arall sydd angen ei wneud.
Pryd fyddaf yn gwybod pa gamau fydd yn cael eu cymryd?
Mae hyn yn dibynnu ar natur yr achos, ond byddwn fel arfer yn ysgrifennu atoch o fewn dau fis i'r cyfweliad i ddweud ein penderfyniad wrthych. Os yw'r penderfyniad yn debygol o gymryd mwy na dau fis, byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud hyn a phryd mae'n debygol y bydd penderfyniad yn cael ei wneud.
Pa gamau y gall y Cyngor eu cymryd?
Os credwn nad oes tystiolaeth bod trosedd wedi'i chyflawni (neu nid ydym yn teimlo, er bod tystiolaeth, ei bod er budd y cyhoedd i gymryd camau pellach) byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn dweud wrthych na fyddwn yn cymryd unrhyw gamau ffurfiol yn eich erbyn. Nid yw hyn yn ein hatal rhag adennill unrhyw ordaliadau a allai fod wedi'u gwneud i chi.
Os credwn fod digon o dystiolaeth i erlyn, byddwn yn ystyried (yn unol â Gweithdrefn Sancsiynau'r Cyngor) pa gamau pellach fydd yn cael eu cymryd.
Mae'r opsiynau fel a ganlyn:
Rhybudd Syml
Rhybudd ffurfiol yw hwn y gellir ei roi i bobl 18 oed neu hŷn sy'n cyfaddef eu bod wedi cyflawni trosedd. Diben hyn yw cynnig modd o ymdrin â throseddu lefel isel, tro cyntaf yn bennaf, heb erlyn.
Yn ogystal, dim ond os ymddengys fod digon o dystiolaeth bod gobaith realistig o euogfarn os oedd y troseddwr i gael ei erlyn y gellir rhoi rhybudd syml.
Mae rhybuddion syml yn rhan o gofnod troseddol y troseddwr. Gellir cyfeirio atynt mewn achosion cyfreithiol yn y dyfodol a gellir eu datgelu fel rhan o wiriad cofnod troseddol.
Cosb Ariannol
Yn lle erlyn, efallai y byddwn yn cynnig cosb. Bydd hyn yn 50% o swm y gostyngiad gormodol o Gymorth Treth Gyngor sydd wedi'i ordalu, yn amodol ar:
- isafswm o £100, ac
- uchafswm o £1000.
Os derbynnir y gosb, a bod cytundeb am ad-dalu yn cael ei wneud, ni chymerir unrhyw gamau pellach yn ymwneud â'r drosedd hon.
Mae rhybuddion syml a chosbau ariannol yn ddewisiadau amgen i erlyn. Os cynigir un o'r dewisiadau amgen hyn i chi a'ch bod yn ei wrthod, rydym yn cadw'r hawl i'ch erlyn.
Erlyn
Gellir cynnal achosion troseddol yn erbyn troseddwyr a gall yr achos fynd i'r Llys os ymddengys fod digon o dystiolaeth o drosedd a bod erlyn er budd y cyhoedd.