Sylwch fod ein proses adnewyddu gyrwyr wedi newid. Ni fydd modd i chi adnewyddu eich trwydded tan cewch eich tystysgrif Datgelu a Gwahardd.
Gall gymryd hyd at 60 diwrnod i chi gael y dystysgrif. Mae’r broses y tu allan i reolaeth Adran Drwyddedu Caerdydd felly cychwynnwch y broses Datgelu a Gwahardd cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi oedi.
Mae Adran Drwyddedu Caerdydd nawr yn defnyddio system E-Swmp Datgelu a Gwahardd Bro Morgannwg. Sylwch fod rhaid cwblhau’r broses trwy’r Swyddfa Cerbydau Cyhoeddus ac nid unrhyw wefan arall.
Pan gewch y llythyr adnewyddu, dilynwch y camau hyn:
- Cam 1. E-bostiwch y manylion canlynol i tacsidbs@caerdydd.gov.uk : eich enw llawn, dyddiad geni a rhif eich bathodyn.
- Cam 2. Anfonwn e-bost atoch gydag enw defnyddiwr a chyfrinair i chi gwblhau ffurflen datgelu a gwahardd ar-lein.
- Cam 3. Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn rhoi gwybod i ni pan foch wedi gwneud hyn, bydd angen i chi fynd i’r Swyddfa Cerbydau Cyhoeddus i ni wirio pwy ydych chi. Sicrhewch eich bod yn dod â’r dogfennau adnabod perthnasol a’r ffi o £47. Canllaw ar ddogfennau adnabod derbyniolDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
- Cam 4. Wedi i ni gael y canlyniad datgelu a gwahardd, ewch i’r Swyddfa Cerbydau Cyhoeddus eto gyda’ch ffurflen Cais am Adnewyddu wedi ei chwblhau, 4 llun pasbort diweddar a’ch hen fathodynnau. Byddwn yn gwneud prawf DVLA ac yna caiff eich bathodynnau eu hadnewyddu, bydd modd adnewyddu’r drwydded hyd at 28 diwrnod cyn y dyddiad darfod ond nid cyn i ni gael canlyniad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Sicrhewch eich bod yn llenwi ffurflen ar-lein y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn gywir, gan gynnwys sillafu cywir a hanes cyfeiriad llawn. Gall camgymeriadau neu wybodaeth sydd ar goll arwain at y DBS yn canslo eich cais a bydd angen i chi wneud cais a thalu eto.
Gwasanaeth Diweddaru Datgelu a Gwahardd