Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gwybodaeth ynghylch coronafeirws

​​Nid yw COVID-19 wedi diflannu ac mae'n debygol o aros gyda ni yn fyd-eang. Er bod cyfyngiadau wedi'u codi, dylech wneud popeth o fewn eich gallu i gadw eich hun ac eraill yn ddiogel.

Helpwch ni i barhau i rwystro trosglwyddiad y feirws drwy:

  • hunanynysu pan fyddwch yn teimlo'n sâl​​
  • gwisgo mygydau mewn mannau gorlawn
  • cael y wybodaeth ddiweddaraf am eich brechiadau​
 
Mae parhau gydag ymddygiadau amddiffynnol yn bwysig ac yn helpu i leihau'r posibilrwydd o ddod i gysylltiad â COVID-19 a'i ledaenu, yn ogystal â heintiau anadlol eraill a chlefydau eraill.


Dewch o hyd i'r canllawiau hunanynysu diweddaraf ar wefan Llywodraeth Cymru.​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

Mae'n dal yn ofynnol i chi wisgo gorchudd wyneb a phellter cymdeithasol mewn amgylcheddau gofal iechyd ac ysbytai.

Dilynwch y canllawiau COVID-19 diweddaraf ar wefan Llywodraeth Cymru.​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd​​

Gweld gwybodaeth am ganllawiau hunanynysu i blant o oed ysgol a phobl ifanc.​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd


Gwasanaeth Galw Heibio Brechu COVID-19

Os nad ydych wedi derbyn eich dos cyntaf, ail ddos neu bigiad atgyfnerthu o'r brechlyn COVID-19, gallwch fynychu sesiwn galw i mewn rhwng 10am a 7pm bob dydd i gael eich brechu. 

Noder, rhaid i bobl ifanc 12 i 15 oed fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad.


Gallwch weld mwy o wybodaeth am raglen frechu torfol COVID-19 ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd​.​
​​​

Taliadau cymorth hunanynysu

Mae'r cynllun cymorth hunanynysu wedi'i gynllunio i helpu pobl sy'n gweithio sydd ar incwm isel na allant weithio o gartref ac felly byddant yn colli incwm wrth gael gwybod gan wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru bod rhaid iddynt hunanynysu.

Dysgwch fwy a gwneud cais am y cynllun cymorth hunanynysu.​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

 



© 2022 Cyngor Caerdydd