Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Sut mae gwneud cais am SDCau?

​​​​​​

Gwasanaeth Ymgeisio Llawn

Ni all unrhyw waith gychwyn ar y safle hyd nes y bydd cymeradwyaeth CCDC wedi’i chael

I wneud cais am CCDC llawn, defnyddiwch y ddolen cais llawn isod. Rhaid i'r canlynol fod gyda'r cais o leiaf:

  • Cynllun lleoliad safle (gyda'r gogledd wedi'i nodi)
  • Cynllun yn nodi'r ardal adeiladu a'r strategaeth ddraenio
  • Y wybodaeth y gofynnwyd amdani yn rhestr wirio’r ffurflen gais
  • Datganiad ynghylch a yw'r cais yn ymwneud â datblygiad sy'n destun cais Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol.
  • Y ffi ymgeisio briodol.


Fodd bynnag, mae'r broses ymgeisio CCDC yn adolygiad technegol llawn a byddai Cyngor Caerdydd yn argymell cynnwys y wybodaeth ganlynol:​

  • Arolwg topograffig o'r safle, gan gynnwys trawstoriadau o unrhyw gyrsiau dŵr am bellter priodol i fyny'r afon ac i lawr yr afon o’r pwynt rhyddhau os yw'n briodol (fel y cytunwyd gyda'r CCDC) 
  • Manylion cynllun presennol y safle, y system ddraenio a'r dalgylchoedd, os yn briodol. 
  • Manylion y ddaeareg a'r hydroddaeareg bresennol. 
  • Ymchwiliadau tir (gan gynnwys dŵr daear a halogiad), a phrofion ymdreiddio, lle y bo'n briodol. 
  • Arolygon o unrhyw systemau draenio neu gyrff dŵr presennol y gallai’r SDCau ryddhau iddynt.
  • Cynllun safle manwl ar raddfa a nodwyd (fel y cytunwyd gyda'r CCDC) gyda phwynt gogledd y system ddraenio arfaethedig a dalgylchoedd. 
  • Hir a thrawstoriadau ar gyfer y system ddraenio arfaethedig gan gynnwys ardaloedd anhydraidd (ar raddfa a gytunwyd gyda'r CCDC). 
  • Cynllun ar gyfer rheoli adeiladu i gynnwys; camau graddol a chynnal y system (gan gynnwys trefniadau mynediad, nodweddion gweithredol, a gofynion ynni ar gyfer adeiladu a chynnal a chadw’r holl systemau draenio arfaethedig) a manylion unrhyw waith oddi ar y safle, ynghyd ag unrhyw gyfnod caniatâd angenrheidiol ac unrhyw effeithiau, megis gwyriadau a rheoli erydiad. 
  • Cynllun iechyd a diogelwch, os yw'n briodol, yn ystyried ardaloedd o ddŵr agored a mynediad cyfyng i'r lle.
  • Manylion adeiladu addas a manylion cysylltiadau (gan gynnwys dyfeisiau rheoli llif) i gyrsiau dŵr, carthffosydd, carthffosydd dŵr wyneb cyhoeddus, draeniau priffyrdd a systemau draenio. 
  • Cynllun plannu tirlunio os ydych yn cynnig system ddraenio â llystyfiant. 
  • Cynllun cynnal a chadw sy'n nodi sut i gynnal y system ddraenio lawn (a fabwysiadwyd ai peidio) yn dilyn adeiladu.
  • Asesiad yn dangos ardaloedd sydd o dan ddŵr ar gyfer storm 1 mewn 100 mlynedd pan fo'r system yn llawn ac sy’n dangos llwybrau llifo i'w dylunio ar gyfer gormodiant. 
  • Cyfrifiadau dylunio llawn a pharamedrau cynllunio i ddangos cydymffurfiaeth â'r meini prawf dylunio ar gyfer y safle. 
  • Meini prawf dylunio mewn perthynas â/o halogiad daear, profion ymdreiddiad, asesiadau dŵr daear a sefydlogrwydd pridd. 
  • Unrhyw ofynion ar gyfer nodweddion draenio dros dro neu bwyntiau rhyddhau yn ystod y cyfnod adeiladu.
  • Cadarnhad o ganiatâd rhyddhau.
  • Cadarnhau lleoliad rhyddhau.
  • Capa
  • si
  • ti rhyddhau.
  • Cytundebau â chyrff eraill.




Ar ôl i gais llawn gael ei wneud a'i ddilysu, ni fydd unrhyw ohebiaeth i drafod materion o wybodaeth bellach sy'n ofynnol, oherwydd bydd y cais yn cael ei asesu ar sail y wybodaeth a gyflwynwyd. Gall unrhyw ddiffyg yn y wybodaeth sy'n ofynnol arwain at wrthodiad.

Fel y CCS, bydd gan y Cyngor 7 wythnos i benderfynu ar gais; fodd bynnag, os yw’r cais yn destun Asesiad Effaith ar yr Amgylchedd, caiff y CCS 12 wythnos i benderfynu.  

Rydym yn argymell eich bod yn ceisio cyngor gennym cyn ​cyflwyno cais CCDC llawn. Bydd hyn yn sicrhau bod y cynllun SDC arfaethedig yn addas ac yn unol â Safonau Cenedlaethol a bod cynllun y safle yn ddigonol. Bydd y gwasanaeth hwn yn werthfawr i ddatblygwyr er mwyn helpu i leihau oedi a lleihau costau yn yr hirdymor.​​

Canllawiau ar gyfer Gwneud Ceisiadau SuDS i gael Cymeradwyaeth CCS (477kb PDF)​ ​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Cais Llawn Cynllun SuDS ar gyfer cymeradwyaeth SAB​ (960kb PDF)​ ​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

​Beth fydd y gost?

Llywodraeth Cymru fydd yn gosod y ffi ar gyfer cais llawn (sy’n daladwy ar adeg y cais) ac mae’n dibynnu ar faint yr ardal adeiladu, fel y manylir isod:
hi table
Ffioedd Ceisiadau Cyffredinol
​Ffi Unffu​rf ​Ffi ar gyfer yr 0.5ha cyntaf ​Ffi rhwng 0.5ha a chan gynnwys 1ha ​Ffi rhwng 1ha a chan gynnwys 5ha Ffi uwchlaw 5ha​
​£350 am bob cais​£70 am bob 0.1 hectar neu gyfran o 0.1 hectar, am y 0.5 hectar cyntaf£50 am bob 0.1 hectar neu gyfran o 0.1 hectar, o 0.5 hectar hyd at ac yn cynnwys 1.0 hectar£20 am bob 0.1 hectar neu gyfran o 0.1 hectar, o 1.0 hectar hyd at ac yn cynnwys 5.0 hectar
£10 am bob 0.1 hectar ychwanegol neu ffracsiwn o 0.1 hectar bye table 1
Ffioedd Ceisiadau Cyngor Tref a Chymuned
​Ffi Unffurf ​Ffi ar gyfer yr 0.5ha cyntaf ​Ffi rhwng 0.5ha a chan gynnwys 1ha ​Ffi rhwng 1ha a chan gynnwys 5ha Ffi uwchlaw 5ha​
£175 am bob cais​£35 am bob 0.1 hectar neu gyfran o 0.1 hectar, am y 0.5 hectar cyntaf​£25 am bob 0.1 hectar neu gyfran o 0.1 hectar, o 0.5 hectar hyd at ac yn cynnwys 1.0 hectar£10 am bob 0.1 hectar neu gyfran o 0.1 hectar, o 1.0 hectar hyd at ac yn cynnwys 5.0 hectar
£5 am bob 0.1 hectar ychwanegol neu ffracsiwn o 0.1 hectar

Diffiniad o ardal adeiladu:
  • yr ardal o dir a nodir ar gynllun sy'n cyd-fynd â chais am ganiatâd cynllunio, neu
  • os na wnaed cais am ganiatâd cynllunio, yr ardal o dir y mae'r gwaith adeiladu wedi dechrau arni neu y bwriedir ei ddechrau arni

Cynigion lluosog ar gyfer yr un safle
Cynnig yn denu'r ffi uchaf a godir yn ôl Tabl 1
Codir tâl ar bob cynnig ychwanegol yn ôl Tabl 2


Sylwch y bydd ffioedd ychwanegol ar gyfer archwilio’r gwaith a’r cronfeydd sy’n gysylltiedig â mabwysiadu a chynnal y systemau draenio cymeradwy. 


​​

© 2022 Cyngor Caerdydd