Mae’r gwasanaeth cyn ymgeisio CCDC yn wasanaeth disgresiynol a gynigir i drafod gofynion draenio eich safle a’r wybodaeth y mae angen ei chyflwyno gyda’ch cais CCDC.
Rydym yn argymell yn gryf bod datblygwyr yn ystyried ymgysylltu’n gynnar yn ystod y cam dylunio cysyniadol/cyn cais er mwyn lleihau’r gost, lleihau oedi wrth ddatblygu, osgoi unrhyw addasiadau yn y dyfodol i gynlluniau safle a sicrhau bod y cynigion yn unol â safonau statudol Llywodraeth Cymru.
Bydd manteision y pecyn cyn cais yn dibynnu ar lefel yr wybodaeth a gyflwynir i’r swyddog CCDC. Mae gwybodaeth allweddol a fyddai o fudd ar gyfer trafodaeth cyn ymgeisio gynhyrchiol yn cynnwys:
-
Manylion amodau tiroedd ac unrhyw ymchwiliadau safle a gwblhawyd.
-
Manylion topograffi safle
-
Manylion cyrsiau dŵr sydd yno a ffiniau’r safle
-
Manylion unrhyw amgylcheddau sensitif y gallai’r datblygiad effeithio arnyn nhw
-
Asesiad o’r risg presennol o lifogydd o bob ffynhonnell.
-
Cynllun yn nodi’r ardal anhydraidd ar hyn o bryd (os yw’r tir eisoes wedi ei ddatblygu)
-
Cynllun draenio dalgylch ar gyfer y datblygiad a’r datblygiad arfaethedig
-
Manylion y llwybrau llif naturio ar hyd y tir
-
Datganiad cydymffurfio â’r Safonau ac Egwyddorion Cenedlaethol
Argymhellir yn gryf eich bod yn ymgysylltu â pheiriannydd sydd â chymwysterau addas i'ch helpu i ddatblygu eich cynigion ar gyfer y safle.
Ffioedd/taliadau cyn ymgeisio
Rydym wedi rhannu ein gwasanaeth cyn ymgeisio yn ddau becyn, cliciwch ar y tabiau i weld y gwasanaethau sydd ar gael:
- Tabl 1: Cyngor heb gyfarfod CCDC
- Tabl 2: Cyngor gyda chyfarfod CCDC
- Tabl 3: Ymweliad â’r safle
- Tabl 4: Cyngor technegol
Pecyn Cyngor Cyn Ymgeisio (heb gynnwys cyfarfod â Chorff Cymeradwyo SDCau)
Mân Ddatblygiadau (1-9 o anheddau, rhwng 100m² a 999m²) | £200 | -
Adolygiad ar wybodaeth a gyflwynwyd
-
Creu adroddiad
|
Datblygiadau Mawr (10-24 o anheddau, rhwng 1,000m² a 1, 999m²) | £450 | -
Adolygiad ar wybodaeth a gyflwynwyd
-
Creu adroddiad
|
Datblygiad Mawr Iawn (mwy na 24 o anheddau, dros 1,999m²)
| £700 | -
Adolygiad ar wybodaeth a gyflwynwyd
-
Creu adroddiad
|
Pecyn Cyngor Cyn Ymgeisio (yn cynnwys cyfarfod â Chorff Cymeradwyo SDCau)
Mân Ddatblygiadau (1-9 o anheddau, rhwng 100m² a 999m²)
| £300
|
-
Adolygiad ar wybodaeth a gyflwynwyd
-
Awr o gyfarfod*
-
Creu adroddiad ar ôl cyfarfod
|
Datblygiadau Mawr (10-24 o anheddau, rhwng 1,000m² a 1, 999m²) | £600 | -
Adolygiad ar wybodaeth a gyflwynwyd
-
Awr o gyfarfod*
-
Creu adroddiad ar ôl cyfarfod
|
Datblygiad Mawr Iawn (mwy na 24 o anheddau, dros 1,999m²)
| £800 |
-
Adolygiad ar wybodaeth a gyflwynwyd
-
Awr o gyfarfod*
-
Creu adroddiad ar ôl cyfarfod
|
Ymweliad â’r Safle
Pob Datblygiad
|
£168 yr ymweliad |
Bydd angen talu cost yr ymweliad safle yn ogystal â phecyn cyn ymgeisio. Mae’r gost yn cynnwys treuliau teithio.
|
Cyngor Technegol
Pob Datblygiad
| £50 yr awr |
Ymateg technegol i gwestiwn penodol. Nid yw hyn yn rhan o’r Pecyn Cyngor Cyn Ymgeisio. |
*Codir tâl am oriau ychwanegol fesul awr.
Byddwn yn darparu’r gwasanaethay disgresiynol hyn o fewn 28 diwrnod wedi cyflwyno’r dogfennau a’r ffioedd cysylltiedig. Rhaid talu’r ffioedd llawn o flaen llaw ac ni roddir ad-daliadau. Codir TAW hefyd ar wasanaethau disgresiynol.
Sylwer: Mae’r gwasanaeth hwn ar wahân i’r gwasanaeth ymgeisio cyn cynllunio