Os ydych yn ddinesydd yr UE neu'n aelod o deulu dinesydd yr UE, fel arfer bydd angen ichi wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE os ydych yn dymuno aros yn y DU ar ôl 31 Rhagfyr 2020 , gan gynnwys y rhai sydd â dogfen breswyl barhaol y DU.
Mae hyn yn cynnwys os ydych naill ai:
- wedi eich geni yn y DU ond nid ydych yn ddinesydd Prydeinig
- yn briod â dinesydd Prydeinig ac rydych o’r UE
Ni fyddwch fel arfer yn gymwys i wneud cais os ydych yn briod â dinesydd Prydeinig ac rydych yn dod o’r tu allan i'r UE.Mae’r DU wedi
dod i gytundeb gyda Norwy, Gwlad yr Iâ a LiechtensteinDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd a
chytundeb ar wahân gyda’r SwistirDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd . Os ydych chi’n wladolyn o’r gwledydd hyn gallwch wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE o 30 Mawrth 2019.
Lansiodd y cynllun yn swyddogol ddiwedd mis Mawrth 2019 a rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 30 Mehefin 2021.
Mae gwneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn rhad ac am ddim. Os gwnaethoch gais yn ystod cyfnod peilot y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ac wedi talu ffi ymgeisio, gallwch
hawlio ad-daliadDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd .
Os daw’r DU i gytundeb â'r UE, bydd Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn parhau ar agor tan 31 Mehefin 2021, a gall dinasyddion yr UE wneud cais hyd at ddiwrnod olaf y cynllun, ar yr amod bod eu dyddiad cyrraedd yn y DU cyn neu yn ystod y cyfnod pontio (sef cyn 31 Rhagfyr 2020).
Yn y sefyllfa hon, bydd y rhai sy'n cyrraedd ar ôl 29 Mawrth 2019 yn gymwys i wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn yr un modd â dinasyddion yr UE a oedd yn byw yn y DU cyn 29 Mawrth 2019.
Mewn achos Brexit 'heb gytundeb', mae'r Prif Weinidog wedi cynghori y bydd y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn dal i gael ei lansio er mwyn cwblhau cofrestriad angenrheidiol dinasyddion AEE sy'n byw yn y DU, wrth baratoi ar gyfer rheolau mewnfudo yn y dyfodol sydd yn cwmpasu dinasyddion AEE.
Rwy’n ddinesydd AEE a oedd yn preswylio yn y DU cyn i'r DU adael yr UE
Ar 6 Rhagfyr 2018, dywedodd Llywodraeth y DU y byddai dinasyddion AEE sy’n byw yn y DU erbyn yr adeg y bydd y DU yn gadael yr UE yn parhau i gael gwneud cais am statws yn y DU trwy Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE os na cheir gytundeb. Bydd yn ofynnol i ddinasyddion AEE a oedd yn byw yn y DU cyn i'r DU adael yr UE wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE er mwyn sicrhau statws 'preswylydd sefydlog' neu 'breswylydd cyn-sefydlog' erbyn 31 Rhagfyr 2020. Sylwer bod y dyddiad cau hwn chwe mis ynghynt nag os deuir i 'gytundeb'.
Rwy’n ddinesydd AEE neu’n aelod teulu i ddinesydd AEE ac rwy’n cyrraedd yn y DU wedi iddi adael yr UE.
Ar 29 Ionawr 2019, nododd yr Ysgrifennydd Cartref y darpariaethau ar gyfer dinasyddion yr AEE ac aelodau o'u teuluoedd sy'n cyrraedd y DU ar ôl inni adael yr UE, pe bai'r DU yn gadael heb gytundeb.
Yn y senario hwn, bydd Llywodraeth y DU yn cael gwared ar y rhyddid i symud, a bydd hyn yn digwydd cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl. Mae'r Bil Mewnfudo a Nawdd Cymdeithasol (Ymadael yr UE) wedi'i gyflwyno er mwyn cyflawni hyn. Felly, ni fyddai dinasyddion AEE sy'n cyrraedd ar ôl ymadawiad y DU o'r UE yn gallu gwneud cais dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE mewn sefyllfa 'heb gytundeb'.
Mae cyhoeddiad Llywodraeth y DU yn cadarnhau, os yw’r DU yn gadael yr UE heb gytundeb, y bydd cyfnod pontio nes y cyflwynir system fewnfudo newydd y DU ar sail sgiliau yn fuan yn 2021.
Caiff y cyfnod pontio ei ddefnyddio i roi trefniadau ar waith ar gyfer y system newydd yn 2021 ac i ddarparu statws o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE i ddinasyddion AEE ac aelodau o'u teuluoedd sy'n byw yn y DU cyn ymadael.
Yn ystod y cyfnod pontio hwn:
- Ni fydd dinasyddion AEE sy'n cyrraedd y DU ar ymweliad am hyd at dri mis yn gweld unrhyw newidiadau.
- Bydd angen i ddinasyddion AEE sy'n dymuno aros yn y DU am fwy na thri mis wneud cais o fewn yr amser hwn er mwyn gwneud hynny.
- Yn amodol ar brofion adnabod, troseddoldeb a diogelwch, rhoddir caniatâd i aros yn y DU (caniatâd Ewropeaidd i aros dros dro) am 36 mis.
- Mae'r caniatâd hwn i aros am 36 mis yn un dros dro ac ni ellir ei ymestyn. Bydd angen i'r rheiny sy'n dymuno aros yn hwy wneud cais a bod yn gymwys o dan delerau system mewnfudo newydd y DU sy'n seiliedig ar sgiliau, a fydd yn dechrau ar 1 Ionawr 2021.
- Mae cyflogwyr eisoes yn cynnal gwiriadau Hawl i Weithio ar ddinasyddion AEE ac ni fydd hynny'n newid. Mae Llywodraeth y DU wedi cynghori nad oes rhaid i gyflogwyr ar yr adeg hon wahaniaethu rhwng y rhai sy'n byw yn y DU cyn yr ymadawiad a'r rhai sy'n cyrraedd ar ôl hynny.
- Nes y cyflwynir y system fewnfudo newydd sy'n seiliedig ar sgiliau, bydd dinasyddion AEE yn gallu dangos tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU drwy ddefnyddio pasbort neu gerdyn adnabod cenedlaethol, fel sydd ar waith ar hyn o bryd.
- Gall dinasyddion AEE sy'n cyrraedd yn ystod y cyfnod pontio gael eu hebrwng gan aelodau o'u teulu agos (eu priod, partner neu blant dibynnol o dan 18 oed) o'r tu allan i Ardal Economaidd Ewrop (AEE), a bydd angen trwydded deuluol arnynt cyn dod i'r DU. Gallant fynd i mewn am hyd at dri mis ac yna gallant wneud cais fel dibynnydd i ddinesydd AEE i aros yn y DU am hyd at dair blynedd.
- Caiff manylion hawliau budd-daliadau a threfniadau codi tâl y GIG ar gyfer dinasyddion AEE yn ystod y cyfnod pontio eu cyhoeddi maes o law
Bydd y trefniadau hyn hefyd yn gymwys i ddinasyddion y Swistir sy'n cyrraedd ar ôl yr ymadawiad mewn sefyllfa heb gytundeb.
Rhagor o wybodaeth am drefniadau mewnfudo ar gyfer dinasyddion yr UE yn ystod y cyfnod pontio mewn sefyllfa heb gytundeb.External link opens in a new window .