Ar ôl cyrraedd, dylech ofyn am help gan eich noddwr, neu Weithiwr Cymorth y Cyngor, i ddod o hyd i feddygfa leol a all ddarparu ar gyfer eich anghenion gofal iechyd o ddydd i ddydd.
Mae'n bwysig eich bod yn cofrestru pob aelod o'ch teulu gyda'r feddygfa cyn gynted ag y gallwch.
Mae cymorthfeydd meddygon ar agor rhwng 8am a 6.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ond nid ar wyliau cyhoeddus nac ar benwythnosau).
Pan fyddwch wedi cofrestru bydd mod di chi gael cyngor meddygol gan:
- Ddoctoriaid,
- Nyrsys arbenigol,
- Bydwragedd, ac
- Ymwelwyr iechyd.
Cymorth Iechyd Meddwl
Mae Llinell Gymorth Iechyd Meddwl i Gymru (C.A.L.L) yn darparu cymorth a gwybodaeth i unrhyw un sydd â thrallod meddwl.
Os yw eich teimladau, meddyliau neu symptomau yn eich poeni, yn peri ofn neu bryder i chi – yna ffoniwch y llinell gymorth neu anfonwch neges destun (0800 132 737).
Cael meddyginiaeth
Mynediad at ddeintyddion
Os oes gennych unrhyw broblem gyda'ch dannedd, dylech ofyn am help gan eich noddwr, neu Weithiwr Cymorth y Cyngor, i ddod o hyd i ddeintydd lleol.
Dylech ofyn am help gan eich noddwr neu weithiwr cymorth i ddod o hyd i Ddeintydd lleol sy'n darparu triniaeth gan y GIG.
Ar gyfer triniaeth ddeintyddol y GIG bydd eich noddwr neu weithiwr cymorth yn eich helpu i wneud cais am dystysgrif HC2.
Bydd angen i chi roi'r rhif dystysgrif HC2 hon i'r deintydd pan fyddwch yn trefnu ar gyfer eich apwyntiad GIG er mwyn osgoi gorfod talu ffioedd deintyddol y GIG.
Bydd angen i chi ddod â'r dystysgrif HC2 hon gyda chi pan fyddwch yn mynychu apwyntiad deintyddol.
Ar gyfer gofal brys, cysylltwch â CAF 24/7 ar 0300 1020 247. Ni fydd angen i chi ddangos tystysgrif HC2 i gael mynediad at ofal deintyddol brys y GIG.
Mynediad at optometryddion
Os oes gennych broblem yn ymwneud â'ch llygaid, dylech ofyn am help gan eich noddwr, neu Weithiwr Cymorth y Cyngor, i ddod o hyd i optometrydd lleol (a elwir hefyd yn optegydd) sy'n darparu gwasanaethau'r GIG.
Ar gyfer profion golwg y GIG a sbectol GIG, gofynnwch i'ch noddwr neu weithiwr cymorth eich helpu i wneud cais am dystysgrif HC2.
Bydd angen i chi roi'r rhif dystysgrif HC2 hon i'r optegydd pan fyddwch yn trefnu ar gyfer eich apwyntiad llygaid GIG er mwyn osgoi gorfod talu ffioedd llygaid a sbectol y GIG.
Bydd angen i chi ddod â'r dystysgrif HC2 hon gyda chi pan fyddwch yn mynychu apwyntiad llygaid.
Ar gyfer unrhyw broblemau brys gyda'ch llygaid, darperir gwasanaeth gofal llygaid brys gan y rhan fwyaf o optometryddion 9am-5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae rhai optometryddion ar agor ar ddydd Sadwrn. Ni fydd angen i chi ddangos tystysgrif HC2 i gael mynediad at ofal llygaid brys y GIG.
I gael cyngor brys y tu allan i oriau, gallwch ffonio GIG 111.
Gwasanaethau gofal iechyd y tu allan i oriau arferol
Os oes gennych broblem iechyd nad yw'n argyfwng sy'n bygwth bywyd ond na all aros nes bydd y feddygfa ar agor nesaf, ffoniwch 111 a byddant yn eich cyfeirio at ble y gallwch gael gofal, a dim ond os bydd angen y byddant yn eich cynghori i ymweld ag ysbyty.
Os oes gennych argyfwng sy'n bygwth bywyd, ffoniwch 999.
Sgrinio Iechyd y Cyhoedd
Bydd pob teulu ac unigolyn sy'n cyrraedd Caerdydd a'r Fro yn cael cynnig sgrinio iechyd y cyhoedd.
Mae hwn yn archwiliad iechyd ychwanegol ar gyfer unigolion sydd wedi dod o dramor ac a allai fod â rhai anghenion iechyd ychwanegol.
Cynhelir Sgrinio Iechyd y Cyhoedd gan wasanaeth penodol o'r enw Gwasanaeth Cynhwysiant Iechyd Caerdydd a'r Fro (GCICF).
Lleolir y gwasanaeth yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd a reolir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Wrth gofrestru gyda meddygfa, bydd GCICF yn anfon llythyr i'ch cyfeiriad yn eich gwahodd i fynychu apwyntiad i gwblhau'r sgrinio iechyd.
Pan fyddwch yn mynychu GCICF, gofynnir i chi am wybodaeth i'ch galluogi i gofrestru:
- ID Ffotograffig
- Prawf o’r cyfeiriad lle'r ydych yn byw
Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynychu’r apwyntiad hwn neu os nad yw’r dyddiad neu'r amser yn gyfleus i chi, ffoniwch yr adran i wneud apwyntiad gwahanol.