Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

ChatBot

Bobi yw ein ChatBot dwyieithog newydd sydd wedi'i ddyfeisio i ateb eich cwestiynau a'ch helpu i gael mynediad at wasanaethau. Mae Bobi ar gael unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos pan fydd yn gyfleus i chi. 

Ein ChatBot yw'r ychwanegiad diweddaraf i ystod o sianeli cyswllt Cyngor Caerdydd, gan gynnig mwy o ddewis i chi a gwell profiad i’r cwsmer. 

Gyda beth all Bobi eich helpu?


Ar y dechrau bydd Bobi yn arbenigo ar ateb eich ymholiadau ailgylchu a gwastraff, er enghraifft:

  • Pryd mae fy miniau neu fy magiau yn cael eu casglu? 
  • Alla’ i ailgylchu ffoil? 
  • Alla’ i riportio tipio anghyfreithlon?
  • Beth yw oriau agor y canolfannau ailgylchu?

Drwy ddefnyddio Bobi i ateb eich cwestiynau byddwch yn arbed amser i chi eich hun a gall ein staff canolfan gyswllt ganolbwyntio ar ymholiadau mwy cymhleth a materion sensitif. 

O'r diwrnod cyntaf bydd ein ChatBot yn dysgu o'r cwestiynau a ofynnwch. Po fwyaf o gwestiynau yr ateba Bobi, y mwyaf y bydd Bobi yn ei ddysgu.

Gyda'ch help chi, bydd gwybodaeth Bobi yn datblygu dros y misoedd nesaf. Yna, gall Bobi ddechrau delio ag ystod ehangach o ymholiadau, a helpu mwy a mwy o gwsmeriaid.

Sut mae defnyddio Bobi?


Bydd Bobi yn ymddangos ar waelod ein tudalennau gwe ar ailgylchu a gwastraff. Cliciwch arno i ddarllen ein telerau ac amodau ac i ddechrau sgwrs. 

Gallwch deipio eich cwestiynau neu glicio ar opsiynau y mae Bobi yn eu darparu yn ystod y sgwrs. Os hoffech ddechrau eto gallwch, teipiwch 'ailgychwyn' ar unrhyw adeg. 

Cliciwch ar y symbol minws i wneud y ffenestr sgwrsio yn llai. Gallwch barhau â'r sgwrs drwy glicio ar Bobi ar unrhyw adeg. 

Bydd hanes eich sgwrs yn aros yn y sgwrs nes i chi gau eich porwr.

Mae eich data’n ddiogel gyda ni 

Rydym yn ymrwymo i gadw’ch gwybodaeth a’ch manylion yn ddiogel ac i gydymffurfio â’r gyfraith. Gweler rhagor o wybodaeth yn ein Hysbysiad Preifatrwydd.​​
​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd