Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Rhaglen Gofal Anifeiliaid

​Mae Ysgol Farchogaeth Caerdydd yn cynnig ystod eang o gymwysterau ar ofalu am geffylau a merlod a rheoli stablau.

Mae’r ysgol ei hun mewn ardal led-wledig yng nghanol y ddinas sy’n amgylchedd addysgu delfrydol. 

Sesiynau ymarferol a gynigir yn bennaf ond mae elfen o waith ystafell ddosbarth a chaiff y cwrs ei asesu trwy dasgau a gwaith cwrs. 

Byddwch yn gallu manteisio ar Ysgol Farchogaeth Caerdydd sydd â’r holl offer angenrheidiol.​

Y pynciau dan sylw

  • Sut i osod cyfrwy a ffrwyn ar geffyl
  • Gofal ceffylau sylfaenol
  • Gofal ar gyfer ceffylau a gedwir ar laswellt 
  • Adnabod ceffylau
  • Archwilio ceffylau am gyflyrau iechyd 
  • Gosod rhwymynnau ar geffyl 
  • Cynorthwyo wrth osod cyfrwy a ffrwyn ar geffyl 
  • Gofal ceffyl ar ôl ymarfer corff 
  • Cynorthwyo wrth ofalu am draed ceffylau 
  • Ysgrafellu ceffyl 
  • Paratoi ceffyl ar gyfer digwyddiad
  • Adnabod lliwiau a marciau ar geffyl​
  • Cadw cofnodion ceffylau 

Sut caiff y cwrs ei asesu??

Caiff ei asesu trwy dasgau a gwaith cwrs.

Ble caiff y cwrs ei gynnal?

Ysgol Farchogaeth Caerdydd, 
Caeau Pontcanna, 
Fields Park Road,
Pontcanna, 
Caerdydd 
CF5 2AX 

At beth gall y cwrs arwain??

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch chi symud ymlaen at gwrs Lefel 2, prentisiaeth neu gyflogaeth. 

Gofynion mynediad i’r cwrs

Ar gyfer CA4 Blwyddyn 10 ac 11 a phobl ifanc 14-16 oed. 

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ond dylai ymgeiswyr fod â diddordeb amlwg yn y pwnc.​


Cysylltu â ni

​​​​​​​​
​ ​029 2233 0270​
© 2022 Cyngor Caerdydd