Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gweithgareddau Anturus Tir a Dŵr

Mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i blant roi cynnig ar chwaraeon a gweithgareddau newydd a chyffrous, gan eu herio’n feddyliol ac yn gorfforol. Mae’n helpu i wella datblygiad personol a chymdeithasol plentyn trwy ymarferion tîm a phwysigrwydd byw bywyd iach.

Trwy chwaraeon a gweithgareddau, bydd plant yn datblygu ac yn adeiladu ar sgiliau corfforol fel cydbwysedd, rheolaeth, rhedeg, taflu a dal. Byddant hefyd yn dysgu sut i gyfathrebu a gweithio’n effeithiol gyda’u cyfoedion trwy ymarferion a gemau adeiladu tîm, a fydd yn helpu i ddatblygu perthnasau cryf a sgiliau cymdeithasol.

Buddion a chanlyniadau’r cwrs

  • Datblygu dealltwriaeth disgyblion mewn amrywiaeth o weithgareddau anturus ar y tir ac yn y dŵr. 
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau datrys problemau neu oroesi sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddisgyblion gynllunio ar y cyd mewn parau neu grwpiau bach.
  • Dethol sgiliau a’u rhoi ar waith. 
  • Datblygu sgiliau datrys problemau disgyblion mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd mewn gweithgareddau anturus. 
  • Galluogi disgyblion i gynllunio a gweithio’n llwyddiannus fel unigolion, mewn parau ac mewn grwpiau. 
  • Datblygu dealltwriaeth disgyblion o bwysigrwydd ac arwyddocâd rheolau a diogelwch.

Ble caiff y cwrs ei gynnal? 

Canolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd,
Ffordd Watkiss,
Bae Caerdydd,
CF11 0SY​.

​​

© 2022 Cyngor Caerdydd