Mae chwarae yn hanfodol i ddatblygiad yr ymennydd. Bydd plant yn magu’r holl sgiliau sydd eu hangen arnynt yn gorfforol, yn feddyliol, yn wybyddol, yn gymdeithasol, yn emosiynol ac yn
greadigol trwy chwarae. Mae chwarae gydag eraill yn helpu plant i ymgyfarwyddo â deinameg grwpiau a chymryd tro, datblygu sgiliau cydweithio, a deall sut a phryd i gyfaddawdu.
Bydd ein sesiynau chwarae hefyd yn cynnwys gweithgareddau i gefnogi chwarae synhwyraidd, gweithredol, creadigol, rôl a ffantasi, fel coginio, celf a chrefft a gemau corfforol. Cefnogi plant i roi cynnig ar bethau newydd, datblygu sgiliau newydd, wrth ddefnyddio eu dychymyg a’u creadigrwydd.
Buddion a chanlyniadau’r cwrs
- Magu hunan-barch.
- Defnyddio’r dychymyg.
- Gwneud ffrindiau a datblygu sgiliau cymdeithasol.
- Datrys problemau.
- Cryfhau sgiliau corfforol: cydsymud, cydbwysedd a sgiliau echddygol.
- Datblygu sgiliau iaith a darllen.
Ble caiff y cwrs ei gynnal?
Canolfan Chwarae Sblot,
Muirton Road,
Sblot,
CF24 2SJ.