Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gofal Anifeiliaid

Gall anifeiliaid gynnig llawer iawn o gefnogaeth emosiynol. Defnyddir y ceffylau yn Ysgol Farchogaeth Caerdydd mewn lleoliad therapiwtig i helpu plant i ymdopi â phrofiadau emosiynol 
heriol. Bydd y plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau fel paratoi, bwydo ac arwain ceffyl wrth gael eu goruchwylio gan weithiwr proffesiynol. Nod y rhaglen hon yw helpu plant i ddatblygu sgiliau fel rheolaeth emosiynol, hunanhyder a chyfrifoldeb.

Mae’r rhaglen Gofal Anifeiliaid o fudd i ystod eang o blant, gan gynnwys y rhai sydd â heriau ymddygiadol, problemau iechyd meddwl ac anawsterau dysgu. Mae’n helpu i wella lles meddyliol a chorfforol a sgiliau cymdeithasol. Mae hefyd o fudd i unrhyw un sy’n chwilio am ffordd newydd o wella hyder a hunanymwybyddiaeth, neu sy’n dyheu am seibiant i ymlacio o’r drefn arferol.

Buddion a chanlyniadau’r cwrs

  • Dysgu sut i ofalu am geffylau a merlod.
  • Dysgu technegau rheoli ceffylau sylfaenol.
  • Cynnal archwiliadau dyddiol o geffylau i chwilio am gyflyrau iechyd.
  • Meithrin cyfeillgarwch.
  • Meithrin partneriaeth ymddiriedus rhwng ceffylau a phobl.
  • Datblygu gwaith tîm a sgiliau arwain.
  • Cyfleoedd i farchogaeth.

Ble caiff y cwrs ei gynnal? 

Ysgol Farchogaeth Caerdydd, 
Caeau Pontcanna, 
Fields Park Road, 
Pontcanna, 
CF5 2AX​.​​
© 2022 Cyngor Caerdydd