Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Astudiaethau ar Dir

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygu sgiliau ymarferol a gwybodaeth ynglŷn â garddwriaeth, coedyddiaeth, tir, bywyd gwyllt a physgodfeydd. Mae’r cwrs hwn yn cynnwys gwaith ystafell ddosbarth a phrofiad ymarferol gyda Cheidwaid Cymunedol Cyngor Caerdydd mewn amrywiaeth o leoliadau tir. Mae’r unedau’n ymdrin â’r amrywiaeth o sgiliau ymarferol a’r wybodaeth y mae eu hangen i weithio yn y diwydiannau tir ac amgylcheddol.

Y pynciau dan sylw

  • Gweithio’n ddiogel a gweithio mewn tîm
  • Cynnal a chadw offer
  • Gofal lawntiau 
  • Plannu a sefydlu planhigion
  • Plannu coed a’u hôl-ofal
  • Pysgod a’r amgylchedd dŵr 

Sut caiff y cwrs ei asesu??

Caiff ei asesu trwy dasgau a gwaith cwrs.

Ble caiff y cwrs ei gynnal?

Mewn parciau yng Nghaerdydd a Fferm y Fforest gyda’r Ceidwaid Cymunedol.​

At beth gall y cwrs arwain??

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch chi symud ymlaen at gwrs Lefel 2, prentisiaeth neu gyflogaeth. ​

Gofynion mynediad i’r cwrs

Ar gyfer CA4 Blwyddyn 10 ac 11 a phobl ifanc 14-16 oed.  

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ond dylai ymgeiswyr fod â diddordeb amlwg yn y pwnc.​


Cysylltu â ni










029 2233 0270​

© 2022 Cyngor Caerdydd