Mae Gwasanaeth Cerdd Sir Caerdydd a Bro Morgannwg wedi ymrwymo i roi profiadau cerddorol o’r safon uchaf mewn ysgolion ac mewn lleoliadau perfformio.
Rydym yn credu y dylai’r holl ddisgyblion gael y cyfle i archwilio, datblygu a dathlu eu gallu cerddorol mewn ffordd sy’n ddymunol iddynt.
Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod pob disgybl yn gallu cael mynediad at hyfforddiant drwy weithio mewn partneriaeth ag arweinwyr ysgolion.
Staff
Mae ein staff addysgu i gyd wedi eu cyfweld i sicrhau bod y cymwysterau priodol ganddynt, y profiad a’r potensial i wneud gwahaniaeth go iawn.
Disgwylir iddynt gael y wybodaeth ddiweddaraf o ran methodoleg addysgu a disgwylir iddynt gymryd cyfrifoldeb am eu datblygiad eu hunain.
Rydym yn eu cefnogi drwy gynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu mewn swydd, ac yn eu cynorthwyo i reoli rhestri a data eu disgyblion.
Arsylwir ar yr holl staff a chaiff eu perfformiad ei adolygu’n barhaus.
Mae pob aelod o staff yn cael gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (fetio) ac yn cydymffurfio â Pholisïau Iechyd a Diogelwch, Diogelu ac Ymddygiad y Cyngor, sydd ar gael ar ein gwefan.
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Mae Gwasanaeth Cerdd Caerdydd a Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddiwallu anghenion pob plentyn, ac mae’n llunio darpariaeth i sicrhau nad oes unrhyw rwystrau i atal cymryd rhan.
Mae gennym diwtoriaid arbenigol sy’n gweithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol, ac rydym ni’n ymgynghori â staff ysgolion i sicrhau bod y sesiynau’n briodol.
Rydym yn wasanaeth sy’n ddiwylliannol amrywiol, ac rydym yn cyflwyno cerddoriaeth o bob cwr o’r byd, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu yn ogystal ag amrywiaeth o offerynnau.
Canllawiau Dysgu Ar-lein Gwasanaeth Cerdd SCBM
Rhaid i rieni gofrestru gyda'r Gwasanaeth Cerdd a chytuno i’r telerau ac amodau.
Bydd pob gwers ar-lein yn sicrhau'r un mesurau diogelu ar gyfer ein tiwtoriaid ag y mae gwersi wyneb yn wyneb, ac mae pob agwedd ar ein polisïau diogelu ac amddiffyn plant yn berthnasol.
Cynghorwyd tiwtoriaid i’w diogelu eu hunain rhag cyswllt amhriodol damweiniol â myfyrwyr drwy gyfyngu eu proffil, ac ni fyddant yn derbyn ceisiadau cyswllt gan fyfyrwyr. Dylai rhieni sicrhau bod myfyrwyr yn deall hyn yn glir.
Bydd y rhiant neu’r gwarcheidwad yn cael gwahoddiad i ymuno â'r wers, a rhaid iddynt gadarnhau eu bod yn bresennol ac yn fodlon i'r wers fynd yn ei blaen. Yn ddelfrydol, dylai'r rhiant aros yn yr ystafell, neu gerllaw, a bod wrth law i’r athro ei alw yn ôl i siarad ar unrhyw adeg.
Ar ddiwedd y wers rhaid i'r rhiant all-gofnodi a chadarnhau bod y wers yn dod i ben – bydd yr athro wedyn yn cau'r sesiwn.
Bydd y tiwtor yn pwysleisio wrth fyfyrwyr a'u rhieni bod y platfform ar-lein i'w ddefnyddio ar gyfer gwersi yn unig, nid ar gyfer unrhyw gyswllt arall. Rhaid i rieni sicrhau bod myfyrwyr yn cyfyngu ar eu proffiliau eu hunain fel mai dim ond gan bobl maen nhw’n eu hadnabod y gallant dderbyn galwadau. Bydd yr holl gyfathrebu yn mynd i e-bost y rhieni, gyda dolenni at y platfform fideo-gynadledda cymeradwy ac i lawrlwytho a gweld adnoddau.
Ni ddylai myfyrwyr wisgo dillad amhriodol, a rhaid i'r wers gael ei chynnal mewn lle priodol megis ystafell fyw/fwyta. Ni ddylai unrhyw weithgareddau eraill yn digwydd yr un pryd e.e. brodyr a chwiorydd eraill yn chwarae neu ddyfeisiau clywadwy fel teledu ar waith. Os digwydd hyn, caiff y rhiant ei alw at y sgrin a chaiff y wers ei dirwyn i ben hyd nes caiff y sefyllfa ei datrys. Bydd yr un drefn ar waith os yw disgybl yn ymddwyn yn amhriodol.