Mae canllawiau Iechyd a Diogelwch Covid-19 wedi'u rhoi i bob athro peripatetig mewn ysgolion, yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru. Mae mesurau’n cynnwys:
- Ni ddylai tiwtoriaid fynychu'r ysgol os ydyn nhw neu unrhyw un y maen nhw’n byw gyda nhw yn dangos symptomau Coronafeirws. Dylid dilyn y gweithdrefnau hunanynysu presennol a dylid rhoi gwybod i reolwyr am hyn
- Dylai tiwtoriaid olchi eu dwylo neu ddefnyddio hylif diheintio wrth fynd i mewn ac allan o’r ysgol.
- Dylai tiwtoriaid gadw pellter cymdeithasol bob amser, a gwisgo mwgwd ym mhob man cymunedol.
- Bydd tiwtoriaid yn sicrhau bod ystafelloedd addysgu yn cael eu hawyru lle bo modd
- Dylai tiwtoriaid osgoi cyffwrdd ag offerynnau disgyblion, yn enwedig genau’r offeryn. Dylai tiwtoriaid ddefnyddio menig untro a hylif diheintio dwylo os ydynt yn tiwnio offeryn neu os oes angen gosod corsen arno. Dylid osgoi rhannu offerynnau oni bai eu bod yn addysgu piano/telyn, y dylid eu glanhau rhwng disgyblion. Gofynnir i ddisgyblion ddefnyddio hylif diheintio dwylo cyn canu’r offeryn
- Dylai disgyblion gael eu copïau eu hunain o'r gerddoriaeth a dod â'u hofferynnau eu hunain i'r wers.
- Dylai tiwtoriaid lanhau eu hofferynnau a'u hoffer ar ddechrau ac ar ddiwedd pob gwers.
- Dylid osgoi cyswllt corfforol â disgyblion a chyffwrdd cyn lleied â phosib â cherddoriaeth neu offerynnau sy'n perthyn i ddisgyblion.
- Dim ond yn unigol neu mewn parau y dylid dysgu disgyblion, gan osgoi cymysgu grwpiau ysgol.
- Dylai tiwtoriaid fod yn ymwybodol o asesiad risg yr ysgol a manylion mesurau diogelwch a rheoli ysgolion unigol.
- Os yw plentyn yn dangos symptomau Coronafeirws yn ystod y wers, dylid rhoi gwybod i'r ysgol ar unwaith, a dilynir gweithdrefnau'r ysgolion.
Canslo gwersi cerddoriaeth a sesiynau Ensemble
Oherwydd y pandemig COVID-19 presennol rydym yn derbyn nifer uchel o ymholiadau. A fyddech gystal â bod yn amyneddgar, byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn. Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir.