Mae Gwasanaeth Cerddoriaeth Sir Caerdydd a Bro Morgannwg yn sefydliad dielw cyd-Gyngor. Rydym ar hyn o bryd yn rhoi hyfforddiant ac yn cynnal projectau i fwy na 7,000 o ddisgyblion mewn 166 o ysgolion yng Nghaerdydd a’r Fro.
Darllenwch y
Telerau ac Amodau ac ewch ati i gofrestru eich plentyn er mwyn iddo gael gwersi offerynnol gyda ni.
Cysylltwch â ni os ydych eisiau dechrau gwersi ran o’r ffordd drwy dymor gan y bydd angen i ni gadarnhau gyda’r athro/athrawes bod lle ar gael ar gyfer eich plentyn.
Ar ôl i chi gofrestru caiff eich plentyn ei aseinio i wersi nes byddwch chi’n rhoi gwybod yn wahanol i ni. Ni fydd rhaid i chi ailgofrestru bob tymor.
Sylwer os gwelwch yn dda ein bod ni’n derbyn lefel uchel o alwadau ac e-byst ar ddechrau’r tymor. Byddwn yn dychwelyd eich galwad neu e-bost cyn gynted ag y gallwn.
Ffidl
| 5+ |
Fiola
| 6+ |
Cello
| 6+ |
Bas Dwbl
| 8+ |
Ffliwt
| 9+ |
Clarinét
| 9+ |
Obo
| 10+ |
Basŵn
| 12+ |
Recorder
| 5+ |
Sacsoffon
| 10+ |
Gitâr
| 6+ |
Gitâr Drydan
| 9+ |
Iwcalili
| 5+ |
Trymped
| 7+ |
Cornet
| 6+ |
Trombôn
| 7+ |
Corn Tenor
| 7+ |
Tiwba / Ewffoniwm
| 11+ |
Corn Ffrengig
| 8+ |
Cit Drymiau
| 6+ |
Bysellfyrddau
| 5+ |
Piano
| 5+ |
Os bydd rhywbeth yn mynd o’i le, mae angen i ni allu ei gywiro’n gyflym, ac os yn bosibl, cymryd camau i sicrhau nad yw’n digwydd eto.
Os ydym ni’n derbyn cwyn gennych chi, byddwn ni’n cydnabod eich cwyn o fewn 5 diwrnod gwaith o’r dyddiad yr ydym yn ei derbyn.
Byddwn yn gwneud popeth y gallwn i’ch helpu, a byddwn yn ceisio canfod ateb i unrhyw broblemau y tynnoch chi ein sylw atyn nhw.