Nid yw’r Cynllun Prynu Offerynnau â Chymorth ar gael ar hyn o bryd ac nid ydym yn delio ag unrhyw archebion ar hyn o bryd.
Drwy’r Cynllun Prynu Offeryn â Chymorth, byddwch yn gallu prynu offerynnau heb dalu TAW. Dim ond os yw eich plentyn yn cael gwersi cerddoriaeth yn yr ysgol gan athro Gwasanaeth Cerdd Sir Caerdydd a Bro Morgannwg y gallwch archebu offeryn drwy’r cynllun hwn.
Prisiau Cynllun Cymorth Prynu Offerynnau (14kb XLS)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Gwasanaeth Cerddoriaeth Caerdydd a Bro Morgannwg,
Ystafell 422,
Neuadd y Sir,
Caerdydd,
CF10 4UW.
Dylech sicrhau bod eich rhif ffôn wedi’i nodi’n glir.
Wedi hyn byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau manylion eich archeb a chymryd y tâl dros y ffôn. Fel arall, gallwn dalu drwy anfon siec.
Ysgrifennwch y siec i CCVGMS.
Sylwer os gwelwch yn dda ein bod ni’n derbyn lefel uchel o alwadau ac e-byst ar ddechrau’r tymor. Byddwn yn dychwelyd eich galwad neu e-bost cyn gynted ag y gallwn.
Bydd yr athro cerdd yn gallu cynnig cyngor ar offeryn o’r maint/model addas os bydd angen.
Gall prisiau newid felly cysylltwch â’r gwasanaeth cerdd i gael rhagor o wybodaeth.