Page Content
aaaaaaaaaaaaaaaaa
Cyfeirlyfr o bobl ifanc yn rhoi cyngor ar y camau nesaf i’r chweched dosbarth, hyfforddiant, addysg uwch a chyflogaeth.
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i wneud yn siŵr y gall pobl ifanc a'u teuluoedd gael gafael ar gyngor a gwybodaeth i'w helpu i benderfynu beth i'w wneud ar ôl gorffen yn yr ysgol.
P'un a yw hyn yn mynd ymlaen i'r chweched dosbarth, addysg bellach, hyfforddiant, addysg uwch o ran cyflogaeth, rydym am sicrhau nad oes unrhyw un yng Nghaerdydd yn cael ei adael ar ôl.
Addewid Caerdydd
Mae Addewid Caerdydd yn dod â phartneriaid ynghyd o ysgolion, y byd busnes, addysg uwch, addysg bellach, gwasanaethau cyhoeddus ehangach a’r trydydd sector i greu cyfleoedd i blant a phobl ifanc yng Nghaerdydd gyflawni eu potensial a chyfrannu at dwf economaidd ein prifddinas. Rhagor o wybodaeth am Addewid Caerdydd.Dilynwch Addewid Caerdydd ar:
Facebook (@cdfcommitment)
Twitter (@CdfCommitment)
Instagram (@cardiffcommitment)
E-bostiwch
addewidcaerdydd@caerdydd.gov.uk i gael gwybod am y cyfleoedd sydd ar gael i blant a phobl ifanc yng Nghaerdydd a sut i wneud cais.Gwasanaethau i Mewn i Waith Mae’r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn gallu helpu pobl ifanc (16-24) i benderfynu ar eu cam nesaf, o ddychwelyd i addysg i symud i gyflogaeth neu hyfforddiant.Mae’r Gwasanaeth i Mewn i Waith yn cynnig cymorth fel:
Cyngor arbenigol ar gyflogaethHyfforddiant am ddim *yn amodol ar gymhwyseddCymorth ariannol i’ch helpu i mewn i waith – gan gynnwys costau gofal plant a thrafnidiaeth, cyfweliadau a dillad gwaith penodol *yn amodol ar gymhwyseddCymorth un i un Ysgrifennu CV/gwneud cais am swydd/cymorth i lenwi ffurflen gaisParatoi am gyfweliadGyrfa Cymru Mae Gyrfa Cymru yn cynnig cyngor a chyfarwyddyd diduedd i bobl ifanc ac oedolion gan gynnwys:
helpu pobl ifanc i gael gwybodaeth am eu dewisiadau,helpu i wneud penderfyniadau, cyngor ar ba gyrsiau addysg bellach sydd ar gael iddynt ,a chymorth i chwilio a gwneud cais am waith neu brentisiaethau.
Rhagor o wybodaeth am Gyrfa Cymru.
Am gymorth a gwybodaeth gyffredinol, ac i gael eich cysylltu ag ymgynghorydd ysgol:
ffoniwch y llinell gymorth genedlaethol – 0800 028 4844(Dydd Llun i ddydd Iau: 9am tan 5pm, dydd Gwener: 9am tan 4:30pm)
defnyddiwch y gwasanaeth gwe-sgwrsio drwy wefan Gyrfa Cymru (Dydd Llun i ddydd Iau: 9am tan 5pm; dydd Gwener 9am tan 4:30pm)
neu e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru
Ar gyfer pobl ifanc sydd â diddordeb yn y farchnad lafur,
ewch i wefan Cymru'n Gweithio.
Coleg Caerdydd a'r Fro Bob blwyddyn mae miloedd o bobl ifanc yn dewis astudio yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro ar ôl gadael yr ysgol. Fel un o golegau mwyaf y DU, rydyn ni’n cynnig ystod enfawr o gyrsiau sy'n canolbwyntio ar yrfaoedd, o Beirianneg Awyrennau i Gelf a Dylunio, o Fusnes i Therapi Harddwch, o Adeiladu i Arlwyo a llawer iawn mwy! Mae gennym hefyd un o gynigion Safon Uwch ehangaf y rhanbarth, gyda dros 30 o bynciau Lefel A. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o brentisiaethau a rhaglenni hyfforddi. Ac os ydych chi'n gadael Blwyddyn 13, mae gennym amrywiaeth eang o gyrsiau a chyfleoedd prifysgol i symud yn eich blaen iddyn nhw. Beth bynnag yw eich cymwysterau blaenorol, a beth bynnag yw eich nod, mae ‘na gwrs neu gyfle yma i chi.Am gyngor ar eich camau nesaf a help i wneud cais, cysylltwch â Choleg Caerdydd a'r Fro (ddydd Llun i ddydd Gwener 9am-5pm):
Ffôn - 02920 250250 E-bostiwch
info@cavc.ac.uk neu defnyddiwch y gwasanaeth sgwrsio byw ar
wefan Coleg Caerdydd a'r Fro. Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd Yn cynnig cymorth i bobl ifanc sydd wedi gadael blwyddyn 11 i gyrraedd lle maen nhw am fod, boed hynny mewn addysg, swydd neu hyfforddiant. Bydd ein tîm o Fentoriaid Ieuenctid yn gweithio gyda chi ar sail un-i-un i archwilio eich opsiynau, goresgyn rhwystrau a’ch helpu i gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnoch. Mwy o wybodaeth am Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd.
Instagram (@CardiffYouthService)
Facebook (@CardiffYouthService)
Twitter (@YouthCardiff)
Consortiwm Canolbarth y De Consortiwm Canolbarth y De (CCD): Grymuso ysgolion i wella canlyniadau i bob dysgwr. Mae CCD yn Wasanaeth Addysg ar y Cyd i bum awdurdod lleol: Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg.Comisiynir y consortiwm gan, ac mae'n gweithredu ar ran, y pum awdurdod lleol i ddatblygu gwasanaeth gwella ysgolion sy'n herio, monitro a chefnogi ysgolion i godi safonau.
Mwy o wybodaeth am Gonsortiwm Canolbarth y De. Dosbarthiadau Chweched yng Nghaerdydd Mae nifer o leoedd ar gael mewn dosbarthiadau chweched ledled y ddinas ar gyfer mis Medi gan gynnwys:
Ysgol Gyfun Radur, Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, Ysgol Uwchradd Cathays, Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, acChweched Dosbarth Ysgol Uwchradd Llanisien.
O Seiber-Ddiogelwch a’r Celfyddydau Perfformio i Wyddorau Amgylcheddol a Theithio a Thwristiaeth, mae gan ddarpariaeth Ôl-16 Caerdydd ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 ddewis amrywiol a diddorol o gyrsiau ar gael. I gael mwy o wybodaeth am ofynion lefel mynediad a sut i wneud cais,
ewch i’n tudalen Chweched Dosbarth neu cysylltwch â’r ysgol yn uniongyrchol. Mae cyrsiau’n dibynnu ar faint o leoedd sy’n weddill, yn amodol ar feddu ar y gofynion mynediad cywir a’r cyfuniad o bynciau sy’n bosibl mewn amserlen.CBAC a Chymwysterau Cymru Mae tudalennau cymorth ar gael i'r rhai sy'n cael eu canlyniadau'r haf hwn:
Cymwysterau Cymru: Cymorth a chyngor Covid-19
CBAC: Cefnogi athrawon a dysgwyr – Coronafeirws
Llywodraeth Cymru: Hwb