Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Addysg Gymraeg

​​​​Waeth beth yw eich iaith yn y cartref, gall Addysg Cyfrwng Cymraeg roi cyfleoedd, profiadau a sgiliau ychwanegol i’ch plant.

Dyma rai cwestiynau cyffredin a allai eich helpu chi i benderfynu a hoffech chi fanteisio ar yr hyn y mae Addysg Cyfrwng Cymraeg yn ei gynnig.


Mae nod syml iawn i addysg cyfrwng Cymraeg, sef rhoi’r gallu i blant ddod yn gwbl rugl yn y Gymraeg a’r Saesneg a derbyn addysg yn y pynciau eraill trwy’r cwricwlwm.

Mae plant ifainc yn dysgu ieithoedd yn hawdd iawn a thrwy wneud y gorau o’r potensial hwn y daeth addysg cyfrwng Cymraeg mor boblogaidd.
Mae ymchwil yn dangos mai dyma’r ffordd orau o bell ffordd i wneud plant yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae nifer o fanteision i ddwyieithrwydd. Mae’n ddefnyddiol iawn fel sgil yn y gweithle; mae siarad Cymraeg naill ai yn sgil hanfodol neu ddymunol ar gyfer nifer cynyddol o swyddi.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i ddatblygu Cymru ddwyieithog trwy ei strategaeth ‘Cymraeg 2050’ gyda’r weledigaeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae mwy o alw heddiw nag y bu erioed o’r blaen am sgiliau dwyieithog mewn amryw faes, megis iechyd, addysg, hamdden, gofal plant, manwerthu a gwasanaethau cyhoeddus.
Gall siarad Cymraeg helpu plant i gael dealltwriaeth lawnach o’u cymuned ehangach a’u lle ynddi. Mae’r Gymraeg yn rhoi mynediad i ddiwylliant, yn cynnwys llenyddiaeth, cerddoriaeth, cyfryngau digidol ac arlwy o bethau eraill na fyddent ar gael iddynt fel arall.

Mae rhai’n dewis addysg Gymraeg ar sail profiadau personol: maen nhw’n adnabod pobl ddwyieithog neu y mae ganddyn nhw blant dwyieithog ac mae’r rheiny felly am i’w plant hwythau fod yn rhan o’r gymuned Gymraeg a bod hefyd yn gwbl gyfforddus yn y Saesneg.
Mae pob teulu, a phob plentyn yn unigryw wrth gwrs. Ond mae teuluoedd o bob math yn elwa o addysg cyfrwng Cymraeg, teuluoedd nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg a rhai sydd; teuluoedd o bob math o gefndir ethnig a chrefyddol; teuluoedd o Gymru a rhai sydd wedi symud yma o rywle arall.
Ddim o gwbl Dydy rhan helaeth, dros 70%, y plant sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd ddim yn siarad Cymraeg gartref. Ac i rai o’r rheiny, iaith arall heblaw am y Saesneg yw prif iaith y cartref. Felly mae dod o gefndir di-Gymraeg yn gwbl arferol ac mae’r cwricwlwm wedi ei lunio gyda hynny dan sylw.

Nid yw’r ysgolion cyfrwng Cymraeg yn disgwyl i’r plant siarad Cymraeg wrth ddechrau yn yr ysgol ond caiff y plant hynny help i ddod yn rhugl cyn diwedd y flwyddyn gyntaf.
Ddim o gwbl Does dim rhaid i chi fod yn Gymry i siarad Cymraeg. Mae rhieni plant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd yn dod o bedwar ban y byd: Cymru, gweddill y DU, Ewrop, Asia, Affrica, Gogledd a De America. Mae rhai yn ystyried eu hunain yn Gymry a rhai ddim, y prif bwynt yw bod dysgu Cymraeg yn agored i bawb.
Yn sicr ddim. Mae disgwyl i blant sy’n gadael ysgolion cyfrwng Cymraeg gyrraedd union yr un safonau Saesneg â’r rhai sydd mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg.

Ac yn yr ysgolion uwchradd, mae’r plant yn yr ysgolion cyfrwng Cymraeg yn sefyll union yr un arholiadau TGAU a Lefel A â’u cyfoedion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. (Nid felly’r ffordd groes: nid yw plant mewn addysg cyfrwng Saesneg yn cyrraedd yr un safonau nac yn sefyll yr un arholiadau Cymraeg â phlant yr ysgolion cyfrwng Cymraeg.)
Gan nad yw rhan fwyaf y plant yn siarad Cymraeg gartref, mae’r ysgolion cyfrwng Cymraeg yn brofiadol iawn wrth gynorthwyo disgyblion a rhieni. Rhoddir cyfarwyddiadau ar gyfer y gwaith cartref yn Gymraeg a Saesneg i’r disgyblion ieuengaf.

Yn hwyrach, bydd y plant yn gallu egluro eu gwaith wrth eu rhieni eu hunain. Mae canlyniadau gwaith ymchwil yn dangos bod trin eu gwaith trwy gyfrwng dwy iaith yn helpu’r plant i ddeall y pwnc. Mae’r wefan addysg, Hwb​​​​​​​​​​​​​​​​External link opens in a new window hefyd yn cynnig ystod o offer dysgu ac adnoddau digidol sydd ar gael yn genedlaethol.
Ddim o gwbl Does bron dim diwedd i allu plentyn i ddysgu ieithoedd. Yn rhan fwyaf gwledydd Ewrop, mae’n gyffredin i blant ifanc siarad dwy neu dair iaith. Gall siarad un iaith helpu i atgyfnerthu’r llall, sy’n ei gwneud yn haws i’r plentyn ddysgu rhagor o ieithoedd yn hwyrach.
Mae’r holl ysgolion cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd yn ysgolion cymunedol. Felly, mae’r broses cyflwyno cais yr union yr un ag yw hi ar gyfer ysgolion cymunedol cyfrwng Saesneg – nid ystyrir iaith cartref y plentyn, ei grefydd na’i genedligrwydd yn y broses gais.
Mae nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd wedi cynyddu’n sylweddol. Bellach mae dwy ysgol gynradd ar bymtheg a thair ysgol uwchradd yn y ddinas. Felly, mae ysgol yn eich cymuned a bydd plant yr ysgol honno yn dod o’ch ardal leol a gallant gyfarfod y tu allan i’r ysgol os mynnent.
Gan fod disgyblion ysgolion cyfrwng Cymraeg yn gwbl ddwyieithog, gallant ddewis dilyn cyrsiau coleg neu brifysgol trwy gyfrwng y naill iaith (neu’r ddwy). Yn ddiweddar, mae gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi sicrhau bod rhagor o raddau’r brifysgol ar gael (yn rhannol neu i gyd) trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae nifer o gyrsiau cyfrwng Cymraeg ar gael mewn addysg bellach hefyd. Er hyn, mae disgyblion o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn aml yn mynd i wneud cyrsiau yn Saesneg yn y coleg neu brifysgol, yng Nghymru a thu hwnt.
Mae rhai rhieni yn penderfynu dysgu Cymraeg hefyd ar ôl dewis ysgol cyfrwng Cymraeg i’w plant. Mae’n gyfle gwych i ddysgu gyda’ch gilydd, ymarfer sgiliau iaith gyda’ch gilydd a threulio amser gwerthfawr gyda’ch gilydd. Mae cyrsiau Cymraeg i Oedolion​​​​​​​​​​​​ ar gael trwy Gymru; ac maent yn addas ar gyfer disgyblion o bob lefel.  


​​
Am ragor o wybodaeth am addysg Gymraeg, ewch i wefan Llywodraeth Cymru. 

Ewch i wefan Ein Dinas Ein Hiaith i weld addysg a chyfleoedd dwyieithog i bawb​.
​​
© 2022 Cyngor Caerdydd