Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Lleoedd Ysgol Gynradd i wasanaethu Cathays a rhannau o Gabalfa, y Mynydd Mychan, Ystum Taf a Phlasnewydd

​​​​​​​​​Mae'r Cyngor yn ceisio barn y gymuned ar gynigion i:

  • wneud newidiadau i'r modd y mae ysgolion cynradd cymunedol cyfrwng Saesneg yn cael eu trefnu, gan gadw nifer cyfatebol o leoedd neu gael gostyngiad bach mewn lleoedd o gymharu â'r trefniadau presennol, ac 
  • ehangu darpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Mynydd Bychan.


Mae'r cynigion yn cynnwys newidiadau i Ysgol Gynradd Allensbank, Ysgol Gynradd Gladstone, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica neu Ysgol Mynydd Bychan.

Mae Cyngor Caerdydd yn ymgynghori ar y newidiadau arfaethedig i Ysgol Gynradd Allensbank, Ysgol Gynradd Gladstone ac Ysgol Mynydd Bychan.  

Mae'r Cyngor hefyd yn cefnogi Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica yn ei ymgynghoriad ar newidiadau posib i'r ysgol.

Byddai’r newidiadau arfaethedig yn: 

  • cynorthwyo pob ysgol i barhau i wella addysg i'w holl ddysgwyr 
  • Sicrhau bod pob darpariaeth ysgol a gynigir yn bodloni anghenion amrywiol y gymuned leol
  • cynorthwyo ysgolion i fod yn gynaliadwy yn ariannol, gyda chyllidebau ysgol sefydlog  
  • cynorthwyo ysgolion i ddyrannu cyfran uwch o gyllideb i addysgu a dysgu, a thrwy hynny gadw a chynyddu cyfleoedd i ddysgwyr 
  • cynyddu lleoedd cynradd cyfrwng Cymraeg gan un Dosbarth Mynediad (210 disgybl oedran cynradd)
  • atgyfnerthu lleoedd cynradd cyfrwng Saesneg â lefel briodol o warged.


Mae'r Cyngor wedi nodi tri opsiwn i ad-drefnu darpariaeth ysgol yn yr ardal. 

Byddai’r newidiadau arfaethedig yn cael eu rhoi ar waith o fis Medi 2025. 

Mae'r ymgynghoriad yn rhedeg o 3 Mai 2023 i 30 Mehefin 2023 ac mae’n gyfle i ddysgu am y newidiadau arfaethedig, i ofyn cwestiynau ac i wneud sylwadau.

Gallwch ddarllen neu lawrlwytho copi o’r ddogfen ymgynghori sy’n nodi’r newidiadau arfaethedig: 

​Mae’r wybodaeth yn y ddogfen hon wedi’i dylunio i’w hargraffu ac efallai na fydd modd gweld popeth ar-lein.



Dweud eich dweud

Gallwch gyflwyno eich barn yn y ffyrdd canlynol:


Tîm Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion, 
Ystafell 401, 
Neuadd y Sir, 
Caerdydd, 
CF10 4UW

E-bost: ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk

Dyddiadau Cyfarfodydd Ymgynghori  


​Rydym wedi trefnu cyfarfodydd cyhoeddus a sesiynau galw heibio y gallwch fynd iddynt os hoffech i ni esbonio’r newidiadau awgrymedig i chi neu os hoffech ofyn cwe.

Dyddiadau Cyfarfodydd Ymgynghori
​​Natur yr Ymgynghoriad
​​Dyddiad/Amser 
​Lleoliad
Sesiwn galw i mewn
​Dydd Llun 15 Mai
2:30pm – 4:30pm
​Llyfrgell Cangen a Threftadaeth Cathays 
Sesiwn galw i mewn
​Dydd Iau 25 Mai
9am – 11am
​Llyfrgell Cangen a Threftadaeth Cathays 
Sesiwn galw i mewn
​Dydd Mercher 7 Mehefin
5pm – 7pm
​Llyfrgell Cangen a Threftadaeth Cathays 
Sesiwn galw i mewn ar-lein
​Dydd Mawrth 9 Mai
9:30am – 12pm
​Microsoft Teams
Sesiwn galw i mewn ar-lein
​Dydd Mercher 17 Mai
9:30am – 12pm 
​Microsoft Teams
​Sesiwn galw i mewn ar-lein
Dydd Llun 5 Mehefin
1:30pm – 4pm
​Microsoft Teams
Sesiwn galw i mewn ar-lein
Dydd Iau 8 Mehefin
1:30pm – 4pm
​Microsoft Teams
​Cyfarfod cyhoeddus (yn Saesneg)
​Dydd Iau 18 Mai
6:15pm – 7:40pm
​Canolfan gymunedol Cathays 
​Cyfarfod cyhoeddus (yn Gymraeg)
​Dydd Iau 25 Mai
6:15pm – 7:40pm
​Canolfan gymunedol Cathays
​Cyfarfod cyhoeddus ar-lein
​Dydd Mawrth 8 Mehefin
6pm – 7:30pm
​Microsoft Teams 

Mae’r sesiynau galw heibio ar-lein yn cael eu cynnal drwy Teams neu dros y ffôn.  Cadwch eich slot drwy e-bostio ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk neu drwy ffonio 029 2087 2720.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 30 Mehefin 2023.

Cysylltu â ni


Os oes unrhyw ymholiadau gennych neu os hoffech gael copi caled o’r ddogfen ymgynghori wedi’i anfon atoch yn uniongyrchol, cysylltwch â’r Tîm Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion.

Gallwch gysylltu â nhw drwy e-bost neu dros y ffôn:

E-bost: ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk
Ffôn:   029 2087 2720​


​​

© 2022 Cyngor Caerdydd