Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Symud ac ehangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg

​Mae gwaith ar adeilad newydd Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg ar ei safle newydd ar ddatblygiad tai St Edeyrn yn mynd rhagddo a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn Pasg 2023.

Mae'r tîm prosiect yn gweithio'n agos gyda'r ysgol i ddewis dodrefn ac adnoddau ar gyfer yr ysgol newydd ac i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar fywyd yr ysgol yn ystod y cyfnod pontio i'r ysgol newydd

Mae darpariaeth feithrin dros dro wedi'i sefydlu ar safle presennol yr ysgol yn Dunster Road yn Llanrhymni a bydd yr ysgol yn croesawu ei disgyblion oedran meithrin cyntaf ym mis Medi 2022.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y broses derbyn i ysgolion yn Gwneud cais am le mewn ysgol (caerdydd.gov.uk)

​Ymgynghoriad ar symud ac ehangu arfaethedig ar Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg

Ar 23 Ionawr 2020, cytunodd Cabinet Cyngor Caerdydd ar gynigion i wneud y canlynol: 

 
  • Drosglwyddo Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg i safle newydd ar y datblygiad tai newydd yn St Edeyrn 
  • Cynyddu nifer y lleoedd yn yr ysgol o 105 lle i 210 lle
  • Ymestyn ystod oedran yr ysgol o 4-11 i 3-11 gan greu meithrinfa yn yr ysgol i alluogi cynnig 48 lle rhan amser.

 Daw’r newidiadau arfaethedig i rym o fis Medi 2021. 






Oedi wrth adeiladu ar gyfer adeilad newydd Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg



Yn anffodus, cafodd y Corff Llywodraethu wybod na fyddai adeiladau newydd Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg yn cael eu cwblhau mewn pryd ar gyfer mis Medi 2021. 

Mae'r Corff Llywodraethu eisiau gweld cynnydd o ran gweithredu'r cynnig yn unol â'r amserlen arfaethedig a gweld manteision y cynnig, megis caniatáu i fwy o ddisgyblion elwa o'r addysg a gynigir yn yr ysgol, sefyllfa gryfach o ran y gyllideb a mwy o gyfleoedd i ddisgyblion a staff, yn cael ei wireddu cyn gynted â phosibl. 

Maent wedi ystyried ffyrdd o gyflawni hyn.  Fodd bynnag, nid oes digon o gapasiti ar safle presennol yr ysgol i weithredu pob elfen o'r cynnig ym mis Medi 2021.  
Yng nghyd-destun y cyfyngiadau a osodir ar yr ysgol gan y pandemig COVID-19, mae'r Corff Llywodraethu wedi ystyried grwpio a symud disgyblion a rhannu ystafelloedd a mannau cymdeithasol, sut y gellir lleihau'r cyswllt rhwng grwpiau a sut y gellir cynnal ymbellhau cymdeithasol.  

Gofynnir am ganiatâd Llywodraeth Cymru i symud ymlaen â'r hyn y gellir ei letya ar y safle presennol ac i ohirio rhai rhannau o'r cynnig y cytunwyd arno. 
Mae'r Corff Llywodraethu wedi cytuno bod y cynnydd yn y Nifer Derbyn wrth fynd i'r Flwyddyn Dderbyn, o 15 lle i 30 lle, yn mynd yn ei flaen.  Gellir gweithredu hyn o fewn llety presennol yr ysgol o fis Medi 2021.

Ni ellir darparu ar gyfer y cynnydd yn nifer derbyn Blwyddyn 1 – Blwyddyn 6 o 15 i 30 lle, a sefydlu darpariaeth feithrin yn yr ysgol, yn y llety presennol ac felly byddai'n cael ei ohirio tan fis Medi 2022 pan fydd yr ysgol yn symud i'w hadeilad newydd.  

Gallai rhieni sy'n chwilio am le mewn addysg feithrin i'w plentyn ym mis Medi 2021 wneud cais i gael eu derbyn i'r dosbarth meithrin yn Ysgol Gynradd Pen y Bryn sydd wedi'i lleoli drws nesaf i Laneirwg, neu mewn ysgolion eraill sy'n gwasanaethu'r ardal.  Mae digon o gapasiti i letya'r plant hyn.  

Mae'r Corff Llywodraethu yn deall y bydd hyn yn siomedig i rieni a phlant sy'n rhan o’r gymuned ysgol bresennol ac yn y dyfodol, ond hoffai eich sicrhau bod trafodaethau'n mynd rhagddynt gyda'r datblygwr mewn perthynas â'u hamserlen ddiwygiedig ar gyfer cwblhau gwaith ym mlwyddyn ysgol 2021/22 a bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i ragor o wybodaeth ddod ar gael.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen unrhyw wybodaeth ychwanegol arnoch, cysylltwch â Chadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg, neu anfonwch e-bost i’r Rhaglen Trefniadaeth Ysgolion ar ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk​





© 2022 Cyngor Caerdydd