Un o’r prif flaenoriaethau addysg i blant a phobl ifanc yng Nghaerdydd yw lefel dda o gyrhaeddiad addysgol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i dorri’r cysylltiad rhwng anfantais a chyrhaeddiad addysgol. Wrth gydnabod y materion penodol sy’n benodol i gyrhaeddiad CA4 yn ardaloedd Trelái a Chaerau mae’r Cyngor nawr yn ymgynghori ar gynnig i:
- Gau Ysgol Uwchradd Glyn Derw a Choleg Cymunedol Llanfihangel (Ffederasiwn Glyn Derw a Llanfihangel) o 31 Awst 2017.
- Sefydlu ysgol uwchradd gymunedol cyfrwng Saesneg 11-18 newydd i wasanaethu ardaloedd Caerau a Threlái o 01 Medi 2017
- Trosglwyddo'r ysgol uwchradd newydd i safle newydd ar safle Ysgol Uwchradd Glyn Derw o fis Medi 2018
Byddai’r ysgol yn y lle cyntaf ar safle Coleg Cymunedol Llanfihangel cyn symud i’r safle newydd ar safle Ysgol Uwchradd Glyn Derw o fis Medi 2018. Cynigir i’r ysgol fod yn un ag 8DM gyda photensial i gael ei hehangu pe bai angen yn y dyfodol.
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn rhedeg rhwng 12 Hydref 2015 a 23 Tachwedd 2015.
neu
- E-bost: ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk
- Post: Tîm Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion, Ystafell 219, Neuadd y Sir, Caerdydd CF10 4UW
- Ffoniwch: (029) 2087 2720
Byddwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi wrth i’r cynlluniau symud yn eu blaen, ond os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser cysylltwch â ni.
Lleoliad y Safle/Cynllun Dangosol