Er mwyn delio â'r diffyg lleoedd ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a Saesneg yn wardiau Adamsdown a Sblot mae’r Cyngor nawr yn ymgynghori ar gynigion i:
- Ddarparu 30 o leoedd ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg ychwanegol fesul grŵp blwyddyn
- Darparu 30 o leoedd ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ychwanegol fesul grŵp blwyddyn
- Darparu lleoedd meithrin rhan amser cyfrwng Saesneg ychwanegol
- Darparu lleoedd meithrin rhan amser cyfrwng Cymraeg ychwanegol
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn rhedeg rhwng 12 Hydref 2015 a 23 Tachwedd 2015.
- E-bost: ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk
- Post: Tîm Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion, Ystafell 219, Neuadd y Sir, Caerdydd CF10 4UW
- Ffoniwch: (029) 2087 2720
Byddwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi wrth i’r cynlluniau symud yn eu blaen, ond os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser cysylltwch â ni.
Lleoliad y Safle/Cynllun Dangosol