Fel rhan o adolygiad
parhaus y Cyngor o'r galw am lefydd mewn ysgolion a'r llefydd sydd ar gynnig,
rydym nawr yn ymgynghori ar adolygu’r trefniadau dalgylch ar gyfer yr ysgolion
uchod.
Yn bresennol, mae Ysgol
Pencae’n gwasanaethu ardal sy’n cynnwys rhannau o Dreganna, Y Tyllgoed, Llandaf
a Glan-yr-afon. Mae dalgylch cyfan Ysgol Pencae o fewn dalgylch uwchradd Ysgol
Gyfun Gymraeg Plasmawr.
Gweld dalgylchoedd ysgolion cynradd Cymraeg CaerdyddDolen yn agor mewn ffenestr newydd ar y map.
Gweld dalgylchoedd ysgol uwchradd Cymraeg CaerdyddDolen yn agor mewn ffenestr newydd ar y map.
Mae’r rhagfynegiadau'n dangos y bydd y galw am lefydd cyfrwng Cymraeg o
fewn dalgylch Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr yn fwy na nifer y llefydd sydd ar gael
er mwyn dechrau yn yr ysgol ym mis Medi 2017, tra bod y galw am lefydd yn
nalgylch Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn llai na nifer y llefydd sydd ar gynnig
yn yr ysgol.
Felly cynigir trosglwyddo Ysgol Pencae o ddalgylch
Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr i ddalgylch Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Nod y
newidiadau a gynigir yw taro cydbwysedd rhwng dalgylchoedd diwygiedig y ddwy
ysgol.
Lawrlwythwch copi o fap y dalgylch Dolen yn agor mewn ffenestr newydd sy’n
manylu ar ddalgylchoedd arfaethedig y byddent yn cael eu gweithredu ym mis Medi
2017.
Dweud eich Dweud
Mae eich barn a’ch syniadau yn bwysig. Os hoffech ymateb i’r ymgynghoriad erbyn dydd Mawrth 1 Mawrth 2016 cysylltwch naill ai trwy anfon e-bost at ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk neu ymateb i:
Rheolwr Cynllunio Trefniadau Ysgolion
Ystafell 219
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW .
Fel dewis arall os oes cwestiwn gennych ffoniwch 029 2087 2917.