Er mwyn gallu darparu digon o leoedd i ateb y galw am leoedd cynradd cyfrwng Cymraeg a Saesneg yn Ystum Taf a’r cyffiniau mae’r Cyngor bellach yn ymgynghori ar y cynigion canlynol i:
- Uno Ysgol Gynradd Gabalfa sydd ag 1 Dosbarth Mynediad gyda meithrinfa â 24 lle cyfwerth â llawn amser o fis Medi 2017.
- Sefydlu Ysgol Glan Ceubal yn barhaol ar ei safle presennol yn Colwill Road, Gabalfa, CF14 2PQ gydag 1 Dosbarth Mynediad o fis Medi 2016.
- Ymestyn ystod oedran Ysgol Glan Ceubal o 4-11 i 3-11 a fyddai’n golygu bod angen sefydlu 48 lle meithrin rhan amser o fis Ionawr 2016.
Cynhelir yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn o 12 Chwefror 2015 tan 25 Mawrth 2015.
neu
Byddwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi wrth i’r cynlluniau fynd rhagddynt, ond os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser cysylltwch â ni.
* Y ffigurau presenoldeb ar gyfer 2013 yw: Ysgol Gynradd Gabalfa 93% Ysgol Glan Ceubal 93.2%