Cynhelir ymgynghoriad ar y cynnig i sefydlu ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg newydd â dau ddosbarth mynediad (derbyn 60 o ddisgyblion fesul grŵp blwyddyn) gyda hyd at 96 o leoedd meithrin rhan amser ar ran o safle Canolfan Addysg Gymunedol Howardian, Hammond Way, Caerdydd CF23 9NB (Ysgol Uwchradd Howardian gynt) o fis Medi 2015.
Cynhelir yr ymgynghoriad cyhoeddus o 22 Hydref tan 03 Rhagfyr 2014.
Mae'r cais wedi’i gyflwyno mewn ymateb i’r galw am leoedd cymunedol cyfrwng Saesneg yng Nghyncoed, Pen-y-lan a rhannau o Blasnewydd.
Gallwch lawrlwytho copi o’r ddogfen (1.12mb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newyddyn nodi manylion y newidiadau arfaethedig a lleisio eich barn yn y ffyrdd canlynol:
neu
- E-bost: ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk
- Cyfeiriad Post: Tîm Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion, Ystafell 219, Neuadd y Sir, Caerdydd CF10 4UW
- Ffoniwch: (029) 2087 2720
Byddwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi wrth i’r cynlluniau symud yn eu blaen. Os oes gennych gwestiynau yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.