Rheswm dros yr Adroddiad hwn
1. Nodi'r gwrthwynebiad i'r hysbysiad statudol i sefydlu ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg â 2 ddosbarth mynediad gyda meithrinfa â 48 o leoedd cyfwerth ag amser llawn, fel cyfleuster newydd wedi'i gyfuno â'r ganolfan gymunedol bresennol ym Mhontprennau, o fis Medi 2015, ynghyd ag ymateb y Cyngor i'r gwrthwynebiad.
Cefndir
2. Yn ei gyfarfod ar 16 Ionawr 2014 cymeradwyodd Cyngor Caerdydd, yn unol â thermau Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru), argymhelliad i gyhoeddi hysbysiad statudol i:
Sefydlu ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg â 2 ddosbarth mynediad gyda meithrinfa â 48 o leoedd cyfwerth ag amser llawn, fel cyfleuster newydd wedi'i gyfuno â'r ganolfan gymunedol bresennol ym Mhontprennau, o fis Medi 2015.
3. Cyhoeddwyd yr hysbysiad ar wefan y Cyngor ac fe'i dangoswyd ar y safle a gynigiwyd ar gyfer yr ysgol ac yn yr ardal leol ar 3 Chwefror 2014. Hefyd cafodd rhanddeiliad a nodwyd yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru fel rhai yr oedd angen arnynt gopi caled o'r hysbysiad neu ddolen i wefan y Cyngor drwy e-bost, eu hysbysu am y cyhoeddiad.
Materion
4. Mae gwrthwynebiad wedi ei wneud i'r cynnig ac nid yw wedi cael ei dynnu'n ôl yn ysgrifenedig o fewn y cyfnod gwrthwynebu.
Gwrthwynebiad a dderbyniwyd
5. Cyflwynwyd y gwrthwynebiad gan Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Glyncoed. Cyn i'r hysbysiad statudol gael ei gyhoeddi, dywedodd y Corff Llywodraethu eu bod yn gwrthwynebu'r cynnig ar y sail y byddai'n effeithio'n ddirfawr ar ddalgylch Glyncoed ac o bosib yn effeithio'n andwyol ar gyllideb yr ysgol. Yn dilyn hynny, cadarnhaodd Cadeirydd y Llywodraethwyr y dylid ystyried hyn fel gwrthwynebiad i'r hysbysiad statudol.
Ymateb y Cyngor i'r gwrthwynebiad
6. Rhagwelir mai prin fyddai effaith sefydlu ysgol gynradd ym Mhontprennau ar nifer y disgyblion ar gofrestrau mewn ysgolion yn yr ardal leol, os bydd effaith o gwbl.
7. Dywed rhagamcaniadau na fyddai lleihad yn y nifer ar gofrestr Ysgol Gynradd Glyncoed o'i gymharu â'r data sydd wedi ei ddilysu yn fwyaf diweddar, sef Ionawr 2013.
8. Ceir cynlluniau ar gyfer datblygiad tai sylweddol i'r gogledd o ddalgylch Glyncoed a byddai'r dalgylch a gynigir ar gyfer yr ysgolion newydd arfaethedig yn golygu y byddai rhagor o blant yn yr ardal at ei gilydd.
9. Pan fo ysgol newydd yn cael ei sefydlu mewn ardal, gellir ystyried cyllid pontio i gefnogi ysgolion sydd eisoes yn yr ardal.
Trefniadau Dalgylch
10. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar sefydlu dalgylch yr ysgol newydd a gynigir ym Mhontprennau, a diwygio dalgylchoedd Ysgol Gynradd Bryn Celyn ac Ysgol Gynradd Glyncoed, rhwng 31 Ionawr a 28 Chwefror 2014.
11. Ni dderbyniwyd gwrthwynebiadau i'r dalgylch a gynigiwyd.
12. Mae manylion am yr ymgynghoriad, ymatebion i'r ymgynghoriad, gwerthusiad o'r ymatebion ac argymhelliad ar y trefniadau dalgylch a gynigir mewn adroddiad ar wahân a ystyriwyd yng nghyfarfod Cabinet y Cyngor ar 10 Ebrill 2014.
Goblygiadau Adnoddau
13. Niferoedd disgyblion sy'n bennaf gyfrifol am y cyllid a ddyrennir yn ôl y fformiwla cyllido. Bydd unrhyw leihad yn nifer y disgyblion mewn unrhyw ysgol gyfagos yn lleihau'r cyllid a gaiff yr ysgol. Rhaid ystyried a ddylai'r model CTY ddarparu swm i gefnogi unrhyw ysgol y gellid effeithio arni gan y cynnig hwn. Os na chaiff ystyriaeth ei rhoi, rhagwelir y bydd cynllun busnes gwydn yn ei le i sicrhau na fydd effaith.
Penderfyniad y Cabinet
PENDERFYNWYD:
a) Cymeradwyo'r cynnig fel y mae ym mharagraff 2 yr adroddiad, heb ei ddiwygio.
b) Awdurdodi swyddogion i weithredu'n briodol i roi'r cynnig a ddisgrifir ym mharagraff 2 yr adroddiad ar waith.
c) Awdurdodi swyddogion i gyhoeddi crynodeb o'r gwrthwynebiadau statudol ac ymateb yr Awdurdod i'r gwrthwynebiadau hynny (a'i alw'n Adroddiad Gwrthwynebu) o fewn 7 diwrnod i'r penderfyniad.
d) Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes i ystyried gofynion o ran arian sefydlu a dyrannu cyllid o'r model CTY mewn ymgynghoriad â'r Bwrdd Rhaglen CTY.
e) Dirprwyo'r gallu i gymeradwyo unrhyw gontractau angenrheidiol i'r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Adran 151, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Aelodau Cabinet dros Gyllid ac Addysg a Dysgu Gydol Oes.
Gweld copi o Adroddiad y Cabinet o 14 Ebrill 2014.
Gweld copi o'r llythyr penderfyniad Mai 2014
Nick Batchelar
Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes
14 Ebrill 2014