Yn gynharach eleni soniwyd am yr argymhellion a oedd yn cael eu cyflwyno i Gabinet Cyngor Caerdydd mewn ymateb i'r twf sylweddol yn y boblogaeth cyn ysgol yn ardal Radur a'r cyffiniau.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus yn y gwanwyn a chafodd y sylwadau a gafwyd drwy lythyron, e-byst, cyfarfodydd cyhoeddus a sesiynau galw heibio eu cyflwyno i'w hystyried gan Gabinet y Cyngor ar 20 Mehefin.
Cymeradwywyd yr argymhelliad canlynol yn y cyfarfod:
- Cyhoeddi hysbysiad statudol i ymestyn ystod oedran Ysgol Gynradd Radur o 4-11 oed i 3-11 oed drwy ddarparu uned feithrin fel rhan o'r ysgol o fis Medi 2013
Cyhoeddwyd yr hysbysiad ar 1 Gorffennaf 2013, a bydd modd cyflwyno gwrthwynebiad ffurfiol i'r cynigion cyn pen mis i'r dyddiad cyhoeddi. Os na fydd unrhyw wrthwynebiadau ysgrifenedig ffurfiol bydd y Cyngor yn cadarnhau ei benderfyniad i fwrw ymlaen oni fydd Llywodraeth Cymru'n dweud wrth y Cyngor ei bod am benderfynu ar y cynigion. Os bydd gwrthwynebiadau i'r hysbysiad, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniad terfynol.
Hysbysiad statudol Ysgol Gynradd Radur.