Mae'r ysgol yn dal i fwriadu sefydlu darpariaeth feithrinfa yn yr ysgol os yw canlyniad y broses ymgynghori statudol yn gadarnhaol a'i bod yn bosibl gweithredu'r cynllun.
Fodd bynnag, dylid egluro mai dim ond at ddiben darparu gofal plant Dechrau'n Deg, oherwydd y cynnydd yn y galw am leoedd yn y gymdogaeth, y byddai gofal plant ar gael ar safle Ysgol Gynradd Gatholig St Francis (fel y nodwyd ar dudalen 5 y ddogfen).
Golyga hyn mai dim ond plant sy'n gymwys i gael gofal plant Dechrau'n Deg fyddai'n gallu cael yr holl leoedd sy'n deillio o'r lleoliad hwn, ac ni fyddai unrhyw leoedd ar gael i deuluoedd eu prynu o'r lleoliad hwn er mwyn darparu gofal cofleidiol i ategu lle addysg ysgol feithrin rhan amser am ddim eu plentyn.
Mae'r ysgol am gyflogi darparwyr gofal plant lleol eraill er mwyn darparu opsiynau gofal cofleidiol ar gyfer y lleoedd addysg ysgol feithrin rhan amser y bwriedir eu cyflwyno yn yr ysgol. Fodd bynnag, byddai unrhyw opsiynau gofal plant a gaiff eu hystyried yn y dyfodol yn cael eu cynnig ar y cyd â darparwyr gofal plant oddi ar y safle ac nid yn Ysgol Gynradd Gatholig St Francis.