Mae ymgynghoriad yn mynd rhagddo ar gynnig i greu ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg newydd ag 1.5 dosbarth mynediad (gan alluogi hyd at 45 o ddisgyblion i gael eu derbyn ym mhob grŵp blwyddyn) ym Mhontprennau gyda meithrinfa â 32 o leoedd cyfwerth ag amser llawn o fis Medi 2015.
Mae'r cynnig hwn yn rhan o raglen buddsoddi cyfalaf Ysgolion yr 21ain Ganrif Cyngor Caerdydd. Fe'i cynlluniwyd i ateb y galw am addysg gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg yn ardal Pontprennau yn y ddinas.
Cynhelir yr ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 04 Mawrth a 26 Ebrill 2013.
Mae disgyblion sy'n byw yn ardal Pontprennau yn mynychu nifer o ysgolion ar hyn o bryd ac mae llawer o blant yn teithio y tu hwnt i'r ardal leol er mwyn cael addysg.
Byddai sefydlu'r ysgol gynradd arfaethedig ym Mhontprennau yn golygu bod angen newid dalgylchoedd Ysgolion Cynradd Bryn Celyn a Glyncoed. Gwasanaethir y dalgylchoedd hynny gan Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Bernadette, Ysgol Gynradd Dewi Sant yr Eglwys yng Nghymru ac Ysgol Pen y Groes hefyd.
Rhagor o wybodaeth
Gallwch lawrlwytho copi o'r ddogfen yn nodi manylion y newidiadau arfaethedig a lleisio eich barn yn y ffyrdd canlynol:
Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i'r cynlluniau fynd yn eu blaen. Petai gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser mae croeso i chi gysylltu â ni.