Ein nod yw gwella safonau a pherfformiad ysgolion i bobl ifanc sy'n cael eu magu yn Nwyrain Caerdydd. Rydym am wneud newidiadau a gwelliannau'n gyflym, fel y gall pobl ifanc yn yr ardal gyflawni eu llawn botensial, sef pam ein bod wedi ffurfio Partneriaeth Gwella Addysg.
Y bwriad yw codi ysgol uwchradd gyfoes newydd sbon gyda darpariaeth academaidd a galwedigaethol 16+ yn lle ysgolion uwchradd Llanrhymni a Thredelerch. Ni fyddai ysgol newydd ar agor cyn 2016, ond mae gwaith wedi dechrau bellach i wella safonau a pherfformiad ysgolion i bobl ifanc yn yr ardal.
Pam bod angen i ni wneud newidiadau nawr
Mae'r sefyllfa bresennol yn Nwyrain Caerdydd yn golygu bod gennym ddwy ysgol lle mae nifer y disgyblion ar drai sy'n wynebu nifer o heriau mawr:
Ysgol Uwchradd Llanrhymni
- Ym Mand 5 bandiau ysgolion Llywodraeth Cymru (y band isaf)
- 71% o leoedd gwag
- Perfformiad gwael mewn TGAU - Canran y disgyblion yn cyflawni trothwy lefel 2 gan gynnwys Cymraeg/Saesneg a Mathemateg yn 2011 oedd 11.6%
- Diffyg Ariannol y Gyllideb ar 31 Mawrth 2012 oedd tua £755,000
- Gwerth £3 miliwn o waith atgyweirio i'w wneud
Ysgol Uwchradd Tredelerch
- Ym Mand 4 bandiau ysgolion Llywodraeth Cymru
- 51% o leoedd gwag
- Perfformiad gwael mewn TGAU - Canran y disgyblion yn cyflawni trothwy lefel 2 gan gynnwys Cymraeg/Saesneg a Mathemateg yn 2011 oedd 30.6%
- Diffyg Ariannol y Gyllideb ar 31 Mawrth 2012 oedd tua £1,055,000
Beth yw Partneriaeth Gwella Addysg a phwy fydd yn rhan ohoni?
Gwyddom y gallwn wella cyfleoedd bywyd ein pobl ifanc, a chredwn y bydd creu Partneriaeth Gwella Addysg yn cyflawni hyn.
Caiff Partneriaeth o'r fath ei ffurfio gan grwpiau gwahanol o bobl sy'n cydweithio, a phob un yn canolbwyntio ar wella safonau a pherfformiad ysgol mewn cymuned. Cydnabyddir yn gyffredinol y gall gweithio mewn partneriaeth fel hyn gyflawni buddion.
Bydd cynrychiolwyr o Ysgolion Uwchradd Llanrhymni a Thredelerch, y gymuned a sefydliadau allweddol eraill fel y gwasanaethau iechyd a'r Heddlu, yn rhan o'r Bartneriaeth, Bydd rhestr derfynol y rhai a fydd yn rhan o'r Bartneriaeth yn y Dwyrain yn seiliedig ar flaenoriaethau a bennir gan:
- Staff Ysgol
- Disgyblion
- Llywodraethwyr Ysgol
- Aelodau Ward
- Grwpiau a sefydliadau eraill â diddordeb sy'n gweithio yn yr ardal
Manteision Partneriaeth:
- Ysgolion sy'n arwain y system, gan ganolbwyntio ar yr hyn sy'n gweithio
- Cyfraddau gwelliant gwell
- Rhannu'r baich o ddarparu cwricwlwm ehangach
- Ysgogi holl staff yr ysgol drwy drafodaeth broffesiynol â phartneriaid
- Rhannu darpariaeth i ddisgyblion sy'n amharu ar eraill neu'n cael eu gwahardd
- Rhannu adnoddau
- Datblygu Addysg Bellach a hyfforddiant Galwedigaethol
- Ystod ehangach o weithgareddau y tu allan i'r ysgol
- Hyrwyddwyr safonau ysgol
- Manteisio ar arbenigedd mewn ysgolion
- Mwy o gyllid rheng flaen
- Y gymuned leol yn teimlo perchenogaeth ar yr ysgol
- Addasu i anghenion lleol
Dull o Ymgynghori
O 1 Hydref i 12 Tachwedd byddwn yn cael gwybod beth yw blaenoriaethau'r grwpiau gwahanol bobl ac yn clywed eu barn ar sut y dylai Partneriaeth yn Nwyrain Caerdydd weithredu.
Rhagor o wybodaeth
Gallwch ddarllen mwy am beth yw Partneriaeth o'r fath, gan gynnwys y manteision y gall eu cynnig i gymuned drwy lawrlwytho Partneriaeth Gwella Addysg gan yr Adran Addysg a Sgiliau.
Gweld Cyflwyniad PowerPoint y Bartneriaeth.
Gweld PGA Dogfen Ymgynghori.
Fel arall, os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni'n uniongyrchol drwy e-bostio ymatebioniysgolion@caerdydd.gov.uk neu drwy ffonio 029 2087 2720.