Mae cais cynllunio gyda manylion y cynlluniau ar gyfer yr Ysgol Uwchradd y Dwyrain newydd wedi'i gyflwyno.
Mae hyn yn dilyn cymeradwyaeth ym mis Mawrth 2010 gan Weinidog Llywodraeth Cymru dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, Leighton Andrews, ar gyfer cau Ysgolion Uwchradd Llanrhymni a Thredelerch a chreu ysgol uwchradd newydd ar ran o'r caeau a elwir yn Dir Hamdden Tredelerch.
Arddangosfa
Cynhelir arddangosfa tan 22 Gorffennaf yng Nghanolfan Hamdden y Dwyrain. Mae'r arddangosfa'n dangos manylion amlinellol o'r adeiladau newydd arfaethedig. Caiff copïau eu harddangos yn y lleoliadau canlynol hefyd:
- Ysgol Uwchradd Llanrhymni
- Ysgol Uwchradd Tredelerch
- Llyfrgell Llanrhymni
- Llyfrgell Tredelerch
- Llyfrgell Llaneirwg
- ac ym mhob ysgol gynradd fydd yn bwydo'r ysgol newydd.
Llawrlwytho copi o'r arddangosfa.
Yn ogystal, bydd yna gopïau manwl o'r cais cynllunio yng Nghanolfan Hamdden y Dwyrain ac yn y llefydd canlynol:
- Neuadd y Ddinas - yn y Brif Dderbynfa
- Llyfrgell Llanrhymni
- Llyfrgell Tredelerch
- Llyfrgell Llaneirwg
Adborth
Os oes gennych unrhyw sylwadau yr hoffech i'r Cyngor eu hystyried cyn i benderfyniad gael ei wneud, cysylltwch â 029 2087 1135 neu e-bostiwch developmentmanagement@cardiff.gov.uk erbyn 22 Gorffennaf 2011.