Mae adroddiad wedi cael ei gyhoeddi yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar y cynnig i newid dalgylchoedd Ysgolion Uwchradd Cyfrwng Cymraeg yng ngoleuni penderfyniad i greu Ysgol Uwchradd Cyfrwng Cymraeg ychwanegol yn Nwyrain y ddinas.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus yn gynharach eleni. Ar 7 Ebrill bydd Gweithrediaeth y Cyngor yn ystyried yr argymhellion canlynol o ganlyniad i'r safbwyntiau a fynegwyd yn yr ymgynghoriad hwn:
- Cymeradwyo'r dalgylchoedd a gynigir, fel bod y gofynion o ran penderfynu ar y trefniadau derbyn yn cael eu bodloni a bod y gofynion hynny ar waith o Fedi 2012.
- Caniatáu i swyddogion ymgynghori ar yr adeg briodol ar drosglwyddo dalgylch Ysgol Pwll Coch i ddalgylch Ysgol Glantaf o Fedi 2013
Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy gydol y broses. Cofiwch ymweld â'n gwefan yn rheolaidd i gael rhagor o wybodaeth am ad-drefnu ysgolion http://new.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Ysgolion/Ysgolion-yr-21ain-Ganrif/ ond os oes gennych gwestiwn penodol anfonwch e-bost atom yn y cyfeiriad canlynol schoolresponses@cardiff.gov.uk neu ffoniwch 029 2087 2720.