Mae cynnig Cyngor Caerdydd am Grant Gwella Adeiladau Ysgol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru wedi bod yn llwyddiant.
Mae Arweinydd y Cyngor Rodney Berman ac Aelod Gweithredol Addysg a Dysgu Gydol Oes, y Cyng Freda Salway, wedi croesawu'r dyfarndal o bron i £27m a fydd yn caniatáu i'r Cyngor mewn partneriaeth â'r Eglwys yng Nghymru, symud ymlaen â'r cynlluniau adrefnu ysgolion yn ardal Llanedern o'r ddinas, yn unol â chymeradwyaeth Gweinidogion.
Ar hyn o bryd mae Cyngor Caerdydd yn aros am y penderfyniad hwn gan y Cynulliad ar ei gynnig statudol i gau Ysgol Uwchradd Llanedern, adleoli Teilo Sant i safle Llanedern ac yna adnewyddu safle Teilo Sant iddo gael ei ailagor fel trydedd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg y ddinas. Disgwylir penderfyniad yn yr hydref.
Meddai'r Cynghorydd Berman: "Rydym yn falch iawn ein bod wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i symud ymlaen mewn partneriaeth â'r Eglwys yng Nghymru i gynllunio ysgol newydd ar gyfer Teilo Sant ac ar gyfer adnewyddu safle presennol Teilo Sant iddo gynnwys trydedd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg y ddinas. Roedd cynigion felly yn ddibynnol ar gyllid ar gyfer rhaglen o'r fath. "Bydd swyddogion y Cyngor a Llywodraeth y Cynulliad nawr yn gweithio gyda'i gilydd i derfynu'r contract a'i fanylion. Mae hyn i gyd wrth gwrs yn ddibynnol ar y Gweinidog yn cymeradwyo'r cynigion yn yr hydref."
Dywedodd y cynghorydd Salway: "Dyma gam cadarnhaol iawn ymlaen. Rydym nawr yn obeithiol y bydd penderfyniad y Gweinidog ar y cynnig hwn yn ein caniatáu i fuddsoddi'r arian i fynd â'r cynllun yn ei flaen."
Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar unrhyw ddatblygiadau a'r camau nesaf. Yn y cyfamser os oes gennych gwestiwn cysylltwch â ni'n uniongyrchol drwy e-bost i ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch 029 2087 2720.