Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cytuno'n swyddogol â'r cynnig i sefydlu Canolfan i blant gydag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig ar safle Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf. Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, cyhoeddwyd hysbysiad statudol i'r cynnig gan Gorff Llywodraethu Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf Yn Nhachwedd 2009.
Anfonwyd y penderfyniad terfynol at y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, Leighton Andrews AC, yn dilyn gwrthwynebiadau a dderbyniwyd i'r hysbysiad statudol oedd yn ymhelaethu ar y newidiadau a gynigiwyd.
Y Cynnig a gafodd ei gymeradwyo:
- Gwneud newid penodol i Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru, Esgob Llandaf, drwy sefydlu Canolfan Awtistiaeth ar safle'r ysgol mewn adeilad fydd yn cael ei godi o'r newydd
- Bwriedir gweithredu'r cynigion hyn o fis Medi 2011
- Cynigir y bydd y Ganolfan Awtistiaeth yn derbyn disgyblion o'r ddau ryw, rhwng 11-19 mlwydd oed gan fwyaf
Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y newidiadau sy'n cael eu gwneud dros y misoedd nesaf, ond os oes unrhyw gwestiynau gennych, cysylltwch â ni'n uniongyrchol dros e-bost yn ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch 029 2087 2720.