Yn dilyn argymhellion gan y Weithrediaeth i fwrw ymlaen â nifer o gynigion trefnu ysgolion, cyhoeddwyd dau hysbysiad statudol ar 24 Medi 2009:
Cyhoeddwyd yr hysbysiad cyntaf gan Gyngor Dinas a Sir Caerdydd i:
- Gau Ysgol Uwchradd Llanedern, Roundwood, Llanedern, Caerdydd, CF23 9US
- Sefydlu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ar safle presennol Ysgol Uwchradd Yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, Llanedeyrn Road, Llanedern, Caerdydd, CF23 9DT
- Bydd yr ysgol cyfrwng Cymraeg yn ysgol gymunedol i fechgyn a merched 11-18 oed. Y bwriad yw y bydd yr ysgol yn dal 1114 o lefydd ar ôl ei chwblhau
Cyhoeddwyd yr ail hysbysiad gan gorff llywodraethu Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant i:
- Drosglwyddo Ysgol Uwchradd Yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, Llanedeyrn Road, Llanedern, Caerdydd, CF23 9DT i safle Ysgol Uwchradd Llanedern, Roundwood, Llanedern, Caerdydd, CF23 9DT
- Cynyddu maint yr ysgol o 1114 o leoedd i 1440
- Sefydlu darpariaeth i blant ag anghenion addysgol arbennig (nam ar eu golwg)
Mae ymateb y Cyngor i'r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn cynnwys sylwadau gan y Corff Llywodraethu yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant i'r cynigion uchod bellach wedi'i anfon i Lywodraeth Cynulliad Cymru a gellir ei weld drwy ddilyn y dolenni isod:
Ymateb i wrthwynebiadau a dderbyniwyd i Hysbysiad Statudol Ysgol Uwchradd Llanedern ac Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Santes
Atodiad 1 - Adroddiadau Estyn ar gyfer Ysgol Uwchradd Llanedern, Ysgol Uwchradd Llanisien ac Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant:
Atodiad 1a
Atodiad 1b
Atodiad 1c
Atodiad 1d
Atodiad 1e
Atodiad 2 - Cynigion Trefniadaeth Ysgolion - Fframwaith Strategol ar gyfer Rhaglen Gwella Adeiladau Ysgol
Atodiad 3 - Gwybodaeth "Galw Heibio" Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc
Atodiad 4 - Cwestiynau'r Cyngor
Atodiad 5 - Cofnodion Panel Derbyn Teilo Sant 27 Ionawr 2009