Cyhoeddi Hysbysiadau Statudol Cyfreithiol
Ystyriwyd adroddiad (2.69mb PDF) gan Gabinet y Cyngor ar 18 Medi 2014 a oedd yn nodi’r argymhellion yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn gynharach yn y flwyddyn.
Mae’r Cabinet wedi cytuno i’r Cyngor barhau i’r cam nesaf a chyflwyno Hysbysiadau Statudol cyfreithiol i:
- Gynyddu nifer y lleoedd yn Ysgol Gynradd Coed Glas, Tŷ Glas Avenue, Caerdydd CF14 5DW o 2 ddosbarth mynediad i 2.5 dosbarth mynediad gyda mwy o leoedd meithrin mewn adeilad parhaol.
- Cynyddu nifer y lleoedd yn Ysgol y Wern, Llangranog Road, Caerdydd CF14 5BL o 2 ddosbarth mynediad i 2.5 dosbarth mynediad gyda mwy o leoedd meithrin mewn adeilad parhaol.
Aeth yr hysbysiadau statudol yn fyw ar 3 Hydref 2014 a gellir eu gweld yma (61kb PDF).
Bydd yr hysbysiad yn caniatáu cyfnod o 28 diwrnod o’r dyddiad cyhoeddi ar gyfer cyflwyno gwrthwynebiadau ffurfiol i’r cynigion.
Dylid anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Sir Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd CF10 4UW.
Gellir hefyd anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Sir Caerdydd, gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost canlynol: ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk