Cysylltu ag ysgol neu ddod o hyd i ysgol
Dalgylchoedd
Nifer y disgyblion yn ysgolion Caerdydd (NAYG)
A yw fy ysgol ar agor?
Cysylltu ag ysgol neu ddod o hyd i ysgol
Mae tair ffordd wahanol o ddod o hyd i fanylion cyswllt ein hysgolion.
Dalgylchoedd
Nid oes rhaid i blentyn fyw mewn dalgylch ysgol i fod yn gymwys i fynychu'r ysgol.
Ym mha ddalgylch ydw i'n byw ynddo?Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Nodwch eich cod post i weld pa ddalgylch rydych chi'n byw ynddoDolen yn agor mewn ffenestr newydd . Bydd y canlyniadau'n dangos gwybodaeth am ddalgylchoedd:
- Ysgolion Cynradd Cymunedol Cyfrwng Saesneg
- Ysgolion Uwchradd Cymunedol Cyfrwng Saesneg
- Ysgolion Cynradd Cymraeg Cymunedol Cyfrwng Cymraeg
- Ysgolion Uwchradd Cymraeg Cymunedol Cyfrwng Cymraeg
Bydd angen i chi nodi cod post eich cartref i chwilio. Os yw eich plentyn yn byw gyda mwy nag un rhiant, defnyddiwch ei brif gyfeiriad.
Sefydlwyd ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg newydd, Ysgol Gynradd Howardian, ym Mhen-y-lan ym mis Medi 2015. Nid oes dalgylch ar gyfer yr ysgol wedi’i sefydlu eto.
Sefydlwyd ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Cymraeg newydd, Ysgol Gymraeg Hamadryad, yn Grangetown ym mis Medi 2016 a bydd yn symud i’w leoliad parhaol ar Hamadryad Road, Butetown, ym mis Ionawr 2019. Nid oes dalgylch wedi’i sefydlu eto.
Nodwch na allwn sicrhau lle i'ch plentyn yn ysgol eich dalgylch. Caiff lleoedd eu dyrannu yn dibynnu ar argaeledd yn y grŵp blwyddyn perthnasol.
Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gyngor arnoch ar ddalgylchoedd, cysylltwch â ni.
Yn ôl i frig y dudalen
Nifer y disgyblion yn ysgolion Caerdydd
Niferoedd ar y gofrestr (NAYG) yw'r term a ddefnyddir i gyfeirio at nifer y disgyblion sydd wedi cofrestru ym mhob ysgol.
Cynhaliwyd yr arolwg NAYG diwethaf ym mis Mai 2018.
Blwyddyn Academaidd 2017/2018
Blwyddyn Academaidd 2016/2017
Blwyddyn Academaidd 2015/2016
Blwyddyn Academaidd 2014/2015