Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cymorth teithio i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

​Nod y Cynllun Hyfforddiant Teithio Annibynnol (CHTA) yw rhoi'r sgiliau allweddol a'r hyder i ddisgyblion ag ADY deithio'n annibynnol, gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, mae angen i'r person ifanc fod:

  • yn byw yng Nghaerdydd,
  • yn 19 oed neu'n iau,
  • â Chynllun Datblygu Unigol (CDU) neu ddatganiad, ac
  • yn gymwys i gael trafnidiaeth ysgol am ddim, p'un a yw'n ei defnyddio ai peidio.



Os nad yw person ifanc yn bodloni'r meini prawf, efallai y byddwn yn dal i allu ei gefnogi drwy rannau o'r flwyddyn academaidd. 

 

Bydd y person ifanc a'r hyfforddwr yn gweithio gyda'i gilydd dros dri cham. Bydd hyfforddiant yn digwydd unwaith yr wythnos fel y cytunir gyda'r rhieni neu'r gwarcheidwaid a'r person ifanc. Bydd y tîm hyfforddiant teithio yn rhoi gwybod i'r tîm trafnidiaeth ysgol pa ddiwrnod mae'r person ifanc yn hyfforddi.

Hebrwng - cam 1

Yn y bore, bydd yr hyfforddwr yn hebrwng y person ifanc o'i gyfeiriad cartref i'r ysgol, y coleg neu ddarpariaethau ADY. Yn y prynhawn, bydd yr hyfforddwr yn hebrwng y person ifanc o'r ysgol neu'r coleg i'w gyfeiriad cartref.

Mae'r cam hwn yn canolbwyntio ar:

  • fagu hyder wrth deithio, a
  • sicrhau bod y person ifanc yn gwybod y llwybr.

Cysgodi - cam 2

Mae'r cam hwn yn galluogi'r hyfforddwr i gysgodi'r person ifanc ar ei daith. Yna gall asesu lefelau sgiliau. Hyd nes y bydd y person ifanc yn ddigon cyfforddus i symud ymlaen i'r cam nesaf, bydd yr hyfforddwr yn parhau i'w hebrwng.

Cwrdd a chyfarch - cam 3​​ 

Ar y cam hwn, bydd yr hyfforddwr yn cwrdd â'r person ifanc mewn lleoliadau penodol ar y llwybr. Er enghraifft, safleoedd bws a gatiau ysgol. 

​Pan fydd y person ifanc yn hyderus, bydd yr hyfforddwr yn gadael iddo deithio'r llwybr cyfan yn annibynnol. Bydd yr hyfforddwr yn hysbysu'r rhieni neu'r gwarcheidwaid bod y person ifanc wedi cyrraedd yn ddiogel, ar ôl cwrdd ag ef wrth y gatiau.

 

Bydd yr hyfforddiant yn parhau hyd nes y gall y person ifanc deithio'n annibynnol. 

Pan fydd yn hyderus i deithio ar ei ben ei hun, gall wneud cais am bàs blynyddol i deithio o amgylch y ddinas. ​ 

Rydym yn cynnig hyfforddiant i grwpiau o bobl ifanc ag ADY nad ydynt efallai'n gymwys i gael hyfforddiant 1 i 1. Bydd 6 sesiwn yn cael eu cynnal yn ystod amser ysgol ac yn canolbwyntio ar:

 

  • gynllunio teithiau o'r ysgol i ganol dinas Caerdydd,
  • cynllunio teithiau i'r coleg,
  • diogelwch ar y ffyrdd,
  • ymddygiad priodol, ac
  • ymarfer defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

 

Mae gan yr hyfforddwyr amrywiaeth o gynlluniau gwersi ac adnoddau y gellir eu cyflwyno i grwpiau o 2 i 8 o bobl ifanc. Bydd yr hyfforddwyr yn teilwra'r sesiynau i weddu i bob grŵp. Rydym yn argymell sesiynau grŵp o flwyddyn 6 i flwyddyn 11.


Os ydych yn credu y byddai'r hyfforddiant hwn yn helpu plentyn neu berson ifanc, cwblhewch y ffurflen gais (104kb DOC).

Cysylltwch â ni os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am y cynllun.​​

Cysylltu â ni



​​​​​​​​​​​​​​​​



© 2022 Cyngor Caerdydd