Weithiau, ni fydd eich plentyn yn gallu mynd i'r ysgol, gelwir hyn yn ‘Absenoldeb Awdurdodedig', a rhaid rhoi gwybod i'r ysgol ymlaen llaw. Gall yr ysgol awdurdodi absenoldeb o dan yr amgylchiadau canlynol:
- Mae eich plentyn yn rhy sâl i fynd i'r ysgol
- Mae gan eich plentyn apwyntiad gyda'r deintydd neu'r meddyg
- Mae perthynas wedi marw
- Rhesymau crefyddol penodol
Rydym bellach wedi gofyn i benaethiaid beidio ag awdurdodi ceisiadau am wyliau yn ystod y tymor. Nid oes gan rieni na gofalwyr unrhyw hawl i fynd â phlentyn allan o'r ysgol ar gyfer gwyliau yn ystod y tymor.
*O ran cymryd gwyliau yn ystod y tymor, mae’r Penaethiaid yn cadw’r hawl i awdurdodi gwyliau ac mae modd iddynt asesu amgylchiadau unigol ac eithriadol.
I roi hyn yn ei gyd-destun, mae'r ysgol ar agor am 190 diwrnod y flwyddyn, sy'n gadael 175 diwrnod yn rhydd i fynd ar wyliau ac ymweld â theuluoedd.
Mae polisi blaenorol Cyngor Caerdydd ar Wyliau Estynedig bellach wedi'i dynnu yn ôl ac rydym yn gofyn i deuluoedd wneud trefniadau i gymryd gwyliau estynedig yn ystod y chwe wythnos o wyliau ym mis Gorffennaf a mis Awst er mwyn helpu ysgolion i gefnogi eich plentyn i lwyddo.
Nid yw'n dderbyniol ac nid oes gennych awdurdod i gymryd eich plentyn allan o'r ysgol am y rhesymau canlynol:
Gofalu am frodyr a chwiorydd
Teithiau siopa
Diwrnodau i ffwrdd i ddathlu pen-blwydd
Ymweld â pherthnasoedd
Cysgu'n hwyr
Cyrraedd yr ysgol yn hwyr
Gofalu am y tŷ
Mynd ar dripiau undydd neu wyliau