Sesiynau hyfforddi canolog
Mae Gwasanaethau Llywodraethwyr yn cynnig sesiynau hyfforddi i lywodraethwyr, clercod a phenaethiaid sydd o:
- Safon uchel a phwrpasol
- Ar gael yn ystod y dydd a gyda’r nos
- A ddarperir gan weithwyr proffesiynol cymwys a phrofiadol
- Yn cynnwys dogfennaeth gynhwysfawr
Cynhelir Llyfryn Hyfforddiant Llywodraethwyr yn flynyddol a darperir sesiynau diweddaru drwy gydol y flwyddyn. Mae’r hyfforddiant yn delio ag ystod lawn o bynciau gan gynnwys hyfforddiant gorfodol i lywodraethwyr, penaethiaid, cadeiryddion llywodraethwyr a chlercod. Mae’r rhaglen yn cael ei hadolygu’n gyson ar ôl ymgynghori â llywodraethwyr ac er mwyn ymateb i’r newidiadau i’r gyfraith sy’n effeithio ar lywodraethu ysgolion.
Gall llywodraethwyr hefyd fynychu hyfforddiant mewn Awdurdodau Lleol eraill ar
draws y rhanbarth.
Mae cyfle i Gyrff Llywodraethu fanteisio ar y canlynol ar gais:
- Hyfforddiant i ysgolion clwstwr
Mae tanysgrifio i’n gwasanaeth yn cynnig:
- Llinell gymorth i drafod yr holl faterion sy’n ymwneud â llywodraethu i lywodraethwyr, penaethiaid a chlercod
- Pecyn Sefydlu i lywodraethwyr newydd
- Hwyluso’r gwaith o benodi clerc i’r ysgolion sy’n gwneud cais am hynny
- Cylchlythyr llywodraethwyr rheolaidd i bob llywodraethwr
- Gwybodaeth am unrhyw newidiadau i’r gyfraith sy’n effeithio ar gyrff llywodraethu
- Offeryn llywodraethu i gyrff llywodraethu
- Rhestr aelodaeth a manylion cyswllt pob corff llywodraethu
- Cyngor ar recriwtio a phenodi llywodraethwyr
- Rhestr o’r holl lywodraethwyr sy’n dilyn hyfforddiant canolog/clwstwr
- Rhoi gwybod i ysgolion am swyddi rhiant-lywodraethwyr gwag oherwydd bod y tymor gwasanaethu yn dod i ben a chyngor a chyfarwyddyd ar bob agwedd ar y broses o ethol rhiant-lywodraethwr
- Cynnig templedi i ysgolion ar gyfer prosesau enwebu ac ethol rhiant-lywodraethwyr
Rydym ni’n gwneud pob ymdrech i sicrhau y cynhelir y sesiynau hyfforddi sydd wedi’u trefnu, ond pan fydd pobl yn tynnu’n ôl neu pan fydd y niferoedd yn isel nid yw’n ymarferol cynnal cwrs ar gyfer grŵp bach iawn. Mewn achosion fel hyn, efallai y byddwn yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen â’r cwrs ac un ai cynnig ei gynnal ar adeg arall neu mewn canolfan arall, neu ystyried dulliau eraill o sicrhau eich bod yn cael y cyfarwyddyd a’r cymorth sydd ei angen arnoch.