Mae gan blant hawl i gael lle rhan-amser mewn meithrinfa o ddechrau'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed.
Byddant yn aros yn yr ysgol feithrin tan y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 4 oed pan fyddant yn dechrau’r dosbarth derbyn yn yr ysgol gynradd.
Os hoffech gymorth gyda’r porthol cysylltwch â C2C ar 029 2087 2088.
Lawrlwythwch y canllaw ar ailosod cyfrinair (144kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych wedi cyflwyno cais ar-lein byddwch yn derbyn eich cynnig am le mewn Meithrinfa drwy e-bost. Byddwch yn derbyn gwybodaeth sy'n berthnasol i'ch cais penodol.
Bydd unrhyw gais sydd wedi ei wrthod yn cael y wybodaeth drwy’r post yn hytrach na thrwy e-bost.
Sut i wneud cais am le mewn Ysgol Feithrin
Os ydych wedi rhoi manylion eich plentyn i ni, byddwch yn derbyn gwybodaeth am y broses ymgeisio.
Cyn cwblhau’r cais ar-lein, darllenwch Llyfryn Derbyn i Ysgolion (3MB PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Rydym wrthi’n hyfforddi Llyfryn Derbyn i Ysgolion 2021/22 a byddwn yn diweddaru’r dudalen hon cyn gynted â phosib. Mae’n ddrwg gennym am yr anghyfleustra. Mae’r ddogfen ar gael yn Saesneg ar hyn o bryd.
Rhowch manylion eich plentyn i ni
Dylech roi manylion eich plentyn i ni er mwyn i ni allu rhoi gwybodaeth i chi ynghylch y broses ymgeisio ar yr adeg briodol.
Gallwch ffonio ni ar:
029 2087 2088
Rhaid i chi roi’r manylion canlynol am eich plentyn enw llawn, cyfeiriad, a dyddiad geni.
Eich dewis ysgol
Argymhellwn eich bod yn ymweld ag ysgolion cyn cyflwyno eich cais. Mae gan bob ysgol ei phrosbectws ei hun ac mae staff yn hapus i ddangos rhieni o gwmpas os byddant yn trefnu apwyntiad. Gwelwch restr o ysgolion.
Nodwch fod gan ysgolion Catholig ac ysgolion yr Eglwys yng Nghymru drefniadau derbyn ar wahân i ysgolion ALl eraill. Cysylltwch â’r ysgol yn uniongyrchol am fwy o wybodaeth.
Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i gwblhau eich ffurflen gais gallwch ymweld ag un o’n Hybiau cyngor.
Mae rhai manteision i wneud cais ar-lein, fel:
- Gallwch gael mynediad i’r gwasanaeth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos hyd at y dyddiad cau.
- Byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau bod eich cais wedi ei gyflwyno.
- Gallwch newid eich cais hyd at y dyddiad cau.
- Byddwch yn derbyn eich cynnig ar e-bost heb orfod aros iddo gyrraedd yn y post.
- Does dim peryg i’ch cais fynd ar goll yn y post
- Byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau bod eich cais wedi ei gyflwyno a’i dderbyn gan yr Awdurdod.
Nodwch y dyddiadau pwysig a restrir yn y tabl fel eich bod yn ymwybodol o:
- bryd bydd y broses gwneud cais yn cychwyn,
- y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, a
- pryd cewch wybod am ganlyniad eich cais yn ysgrifenedig.
Dydd Llun 18 Ionawr 2021 Bydd y gwasanaeth Ymgeisio Ar-lein yn agor.
|
Dydd Llun 22 Chwefror 2021 Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ar-lein.
Bydd unrhyw cais sy’n dod i law ar ôl y dyddiad hwn yn cael ei ystyried yn hwyr ac ni fydd yn cael ei neilltuo yn y rownd gyntaf. Gallai rhai ysgolion fod yn llawn erbyn y rowndiau hwyrach.
|
Dydd Llun 26 Ebrill 2021 Caiff ceiswyr ar-lein e-bost ar y dyddiad hwn.
|
Gellir cael dyddiadau pwysig, manylion am ariannu’r Blynyddoedd Cynnar a gwybodaeth arall am wneud cais am le mewn ysgol yn y
Llyfryn Derbyn i ysgolion (3mb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd.
Os ydych wedi methu’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am le mewn ysgol feithrin, bydd angen i chi gwblhau Ffurflen Feithrin Hwyr yn un o Hybiau’r Cyngor (ar ôl 22 Chwefror 2021).
Byddwn yn ystyried ceisiadau hwyr ar ôl prosesu ceisiadau wedi’u cyflwyno’n brydlon. Mae manylion am ein meini prawf derbyn ar gael yn ein Llyfryn Derbyn i Ysgolion (3mb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd. Fel arfer byddwn yn prosesu ceisiadau hwyr yn fisol.
Os oes cwestiwn gennych neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni.