Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Help i wneud cais

​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Cyn i chi ddechrau'r broses ymgeisio gwnewch yn siŵr eich​​​ bod wedi darllen ein 7 Awgr​ym ar wneud cais am le mewn ysgol​​.

​​​​​​​​​Mae'r awgrymiadau ar wneud cais am le mewn ysgol hefyd ar gael mewn nifer o ieithoedd cymunedol:


Derbyn i Ysgolion Caerdydd​

​​
Video id: QqzjHRJc6SY

Os carech wylio’r fideo hwn gydag is-deitlau, cliciwch ar y botwm Subtitles / Close Caption (CC) ar waelod y sgrîn fideo. ​



​Mae llawer o ysgolion gwych yng Nghaerdydd, ond mae’r lleoedd yn llenwi’n gyflym. 


Dyma ambell awgrym i'ch helpu i wneud cais am le mewn ysgol:


Mae'r wybodaeth yn y ddogfen hon yn cynnwys lluniau ac wedi'i dylunio i’w hargraffu. 


Gallwch weld crynodeb o'r wybodaeth ar y dudalen ho​​n.



​7 darn o gyngor i’ch helpu i wneud cais am le mewn ysgol ​

​​​​​​

Edrychwch ar ysgolion yn eich ardal. Ewch i'w gwefan, edrychwch ar eu prosbectws a darllenwch yr adroddiad Estyn.


Ceisiwch drefnu ymweliad​


Nid yw’r ffaith eich bod wedi clywed am ysgol yn golygu eich bod yn ei hadnabod. 
Edrychwch ar wefannau ysgolion, darllenwch adroddiadau a gofynnwch a allwch ymweld.


Ni allwn roi sicrwydd i chi o le yn eich ysgol agosaf, ond mae dysgu mwy amdani yn lle da i ddechrau. Mae rhai ysgolion yn boblogaidd iawn, felly rydym yn sicrhau bod pobl yn byw yn y cyfeiriad y maent yn ei roi i ni, hyd at y dyddiad derbyn.
Gobeithiwn y cewch le yn eich dewis cyntaf o ysgol ond yn aml nid yw hynny'n bosibl. Mae gan bob ysgol uchafswm y gallant ei dderbyn. Meddyliwch am bob dewis yn ofalus.

Nodyn: Mae lleoedd ysgol yn llenwi'n gyflym, felly nodwch eich holl ddewisiadau i wneud yn siŵr y gallwn roi eich dewis uchaf posibl i chi. 

Mae rhestru eich holl ddewisiadau o'r dechrau yn bwysig iawn.

Rydym am i'ch plentyn gael y lle gorau posibl. Gallwch helpu drwy anfon unrhyw dystiolaeth pan fyddwch yn gwneud cais. 

Dywedwch wrthym os oes gan eich plentyn:​​

  • ​unrhyw frodyr neu chwiorydd yn yr ysgol
  • unrhyw anghenion dysgu ychwanegol
  • unrhyw anghenion meddygol neu gymdeithasol sy'n golygu bod angen iddo fynd i un ysgol ac nid un arall

Rhowch wybod i ni os bydd unrhyw beth yn newid.

Mae yna ddyddiad cau. Rydym yn gwirio ceisiadau sy'n dod i law ar amser yn gyntaf. 

Os methwch chi’r dyddiad cau, byddwch chi’n colli'r rownd gyntaf. Yna mae'n rhaid i chi lawrlwytho ffurflen a'i hanfon i mewn. Mae hynny'n cymryd mwy o amser a gallech golli lle mewn ysgol a ddewisoch. ​

Peidiwch â bod yn hwyr

Mae 60% o ysgolion Caerdydd yn llenwi yn y rownd gyntaf. 
Gallwch wneud cais am le ysgol ar-​lein.

Rydym yn ymdrin â derbyniadau i ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd drwy ein system dderbyn ar-lein. ​

Ceisiwch ddefnyddio'r un cyfeiriad e-bost bob tro y byddwch yn cysylltu â ni.

Mae rhai ysgolion ffydd yn rheoli eu lleoedd ysgol eu hunain – felly edrychwch ar eu gwefan i weld a oes angen i chi wneud cais yn uniongyrchol iddyn nhw. 

Gofynnwch am help


Os nad oes gennych gyfrifiadur neu os oes angen help arnoch, gallwch wneud apwyntiad i ymweld â hyb​ neu ffoniwch ni ar 02920 872088.


Pan gewch gynnig ar gyfer ysgol yng Nghaerdydd, mae angen i chi ddweud wrthym a ydych am dderbyn y lle cyn gynted â phosibl. Efallai na fyddwch yn cael eich dewis cyntaf, ond byddwch yn aros ar y rhestr aros honno.

Os gwelwch yn dda, dywedwch wrthym os nad ydych am dderbyn y lle fel y gallwn 
ei roi i rywun arall.



Bydd grŵp (panel) o wirfoddolwyr annibynnol, di-dâl yn gwrando ar eich apêl. Y panel sydd biau’r gair olaf. 
​​

Help gyda'r system ceisiadau ysgol  



Os hoffech gael help i lenwi eich ffurflen gais gallwch ymweld ag un o'n hybiau cynghori.​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd