Gwiriwch y terfynau amser derbyn i ysgolion diweddaraf, a dewch o hyd i'r holl ddyddiadau sydd eu hangen arnoch fel nad ydych yn methu unrhyw ddyddiadau cau ar gyfer lleoedd ysgol eleni.
Dyddiadau pwysig ar gyfer ceisiadau
Os ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2018 a 31 Awst 2019
24 Ionawr 2022
| Y broses o wneud cais i ddechrau mewn Ysgol Feithrin ym mis Medi 2022 yn cychwyn. Bydd y gwasanaeth Ymgeisio Ar-lein yn agor. |
21 Chwefror 2022
| Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i unrhyw gais newydd gael ei wneud ar bapur a bydd yn cael ei ystyried yn gais hwyr.
|
Chwefror i Ebrill 2022
| Caiff ffurflenni eu prosesu a’u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn
priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu’r cyfeiriad a’r wybodaeth ategol rydych wedi’u rhoi i ni.
|
25 Ebrill 2022
| Diwrnod y Cynnig. Bydd e-bost yn cael ei anfon atoch ar ôl 10am. Os gwnaed cais amdano, bydd llythyr yn cael ei anfon atoch yn y post ar ôl 10am. Nodwch mai dim ond ar ôl 12 canol dydd ar y diwrnod cynnig y gellir rhoi penderfyniadau dros y ffôn. |
Ebrill 2022
| Creu rhestrau aros.
|
9 Mai 2022
| Dyddiad olaf i chi wrthod lle a gynigiwyd i chi. Rydym yn cadw’r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd.
|
Mai 2022
| Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a’u hasesu.
|
Mehefin 2022
| Canlyniadau’r ail rownd yn cael eu hanfon allan yn y post. Bydd pob
rownd arall yn cael ei phrosesu’n fisol o nawr ymlaen.
|
Medi 2022
| Plant yn dechrau yn yr Ysgol Feithrin.
|
Os ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2019 a 31 Mawrth 2020
| Y broses o wneud cais i ddechrau mewn Ysgol Feithrin yng Ngwanwyn/Haf 2023 yn cychwyn. Bydd y gwasanaeth Ymgeisio Ar-lein yn agor. |
4 Gorffennaf 2022
| Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i unrhyw gais newydd gael ei wneud ar bapur a bydd yn cael ei ystyried
yn gais hwyr.
|
Gorffennaf i Medi 2022
| Caiff ffurflenni eu prosesu a’u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu’r cyfeiriad a’r wybodaeth ategol rydych wedi’u rhoi i ni.
|
2 Hydref 2022
| Diwrnod y Cynnig. Bydd e-bost yn cael ei anfon atoch ar ôl 10am. Os gwnaed cais amdano, bydd llythyr yn cael ei anfon atoch yn y post ar ôl 10am. Nodwch mai dim ond ar ôl 12 canol dydd ar y diwrnod cynnig y gellir rhoi penderfyniadau dros y ffôn. |
Hydref 2022
| Creu rhestrau aros.
|
17 Hydref 2022
| Dyddiad olaf i chi dderbyn neu wrthod y lle a gynigiwyd gennym. Rydym yn cadw’r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd. |
Hydref 2022
| Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a’u hasesu |
Tachwedd 2022
| Canlyniadau’r ail rownd yn cael eu hanfon allan yn y post. Bydd pob
rownd arall yn cael ei phrosesu’n fisol o nawr ymlaen.
|
Tymor y Gwanwyn / Tymor yr Haf 2023
| Plant yn dechrau yn yr Ysgol Feithrin.
|
Os ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2017 a 31 Awst 2018
15 Tachwedd 2021
| Y broses o wneud cais i ddechrau mewn Dosbarth Derbyn ym mis Medi 2022 yn cychwyn. |
10 Ionawr 2022
| Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i unrhyw gais newydd gael ei wneud ar bapur a bydd yn cael ei ystyried yn gais hwyr.
|
Chwefror i Ebrill 2022
| Caiff ffurflenni eu prosesu a’u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu’r cyfeiriad a’r wybodaeth ategol rydych wedi’u rhoi i ni. |
19 Ebrill 2022
| Diwrnod y Cynnig. Bydd e-bost yn cael ei anfon atoch ar ôl 10am. Os gwnaed cais amdano, bydd llythyr yn cael ei anfon atoch yn y post ar ôl 10am. Nodwch mai dim ond ar ôl 12 canol dydd ar y diwrnod cynnig y gellir rhoi penderfyniadau dros y ffôn. |
Ebrill 2022
| Creu rhestrau aros.
|
4 Mai 2022
| Dyddiad olaf i chi dderbyn neu wrthod y lle a gynigiwyd gennym. Rydym yn cadw’r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd. |
Mai 2022
| Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a’u hasesu.
|
Mehefin 2022
| Canlyniadau’r ail rownd yn cael eu hanfon allan yn y post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu’n fisol o nawr ymlaen. |
Medi 2022
| Plant yn dechrau yn yr ysgol yn llawn amser.
|
Os ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2010 a 31 Awst 2011
27 Medi 2021
| Y broses o wneud cais i ddechrau ym Mlwyddyn 7 ym mis Medi 2021 yn cychwyn. |
22 Tachwedd 2021
| Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i unrhyw gais newydd gael ei wneud ar bapur a bydd yn cael ei ystyried yn gais hwyr. |
Rhagfyr 2021 - Chwefror 2022
| Caiff ffurflenni eu prosesu a’u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu’r cyfeiriad a’r wybodaeth ategol rydych wedi’u rhoi i ni.
|
1 Mawrth 2022
| Diwrnod y Cynnig. Bydd e-bost yn cael ei anfon atoch ar ôl 10am. Os gwnaed cais amdano, bydd llythyr yn cael ei anfon atoch yn y post ar
ôl 10am. Nodwch mai dim ond ar ôl 12 canol dydd ar y diwrnod cynnig y gellir rhoi penderfyniadau dros y ffôn.
|
15 Mawrth 2022
| Dyddiad olaf i chi dderbyn neu wrthod y lle a gynigiwyd gennym. Rydym yn cadw’r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd.
|
Mawrth 2022
| Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a’u hasesu. |
Mai 2022
| Canlyniadau’r ail rownd yn cael eu hanfon allan yn y post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu’n fisol o nawr ymlaen. Safleoedd Rhestr Aros ar gael.
|
Medi 2022
| Plant yn dechrau yn yr ysgol uwchradd.
|
Ceisiadau hwyr
Mae'n bwysig eich bod yn cyflwyno'ch cais ar amser i wella eich siawns o gael lle yn yr ysgol o’ch dewis.
Os byddwch yn methu'r dyddiad cau ni allwch wneud cais hwyr ar-lein. Bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais hwyr ar bapur. Darllenwch
gwybodaeth am geisiadau hwyr a llenwch ffurflen.